Auschwitz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: als:KZ Auschwitz-Birkenau
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
delwedd
Llinell 2:
 
'''Auschwitz''' oedd y mwyaf o [[Gwersyll difa|wersylloedd difa]] y [[Natsïaeth|Natsïaid]] yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]]; yma y lladdwyd canran uchel o'r rhai a laddwyd yn [[yr Holocost]]. Roedd rhan ohono hefyd yn [[Gwersyll crynhoi|wersyll crynhoi]]. Cymer ei enw o'r dref gyfagos, [[Oświęcim]] mewn [[Pwyleg]], ''Auschwitz'' mewn [[Almaeneg]]. Mae'r dref tua 50 km i'r dwyrain o [[Kraków]] a 286 km o [[Warsaw]].
[[File:Crematorium at Auschwitz I 2012.jpg|bawd|chwith|Amlosgfa yn Auschwitz I]]
 
Roedd tri prif wersyll: Auschwitz I, y ganolfan weinyddol; Auschwitz II (Birkenau), y ''Vernichtungslager'' neu wersyll difa; ac Auschwitz III (Monowitz), gwersyll gwaith. Sefydlwyd Auschwitz I ar [[20 Mai]], [[1940]], a dechreuwyd adeiladu Auschwitz II (Birkenau) yn Hydref 1941. Mae rhywfaint o ansicrwydd faint yn union o bobl a laddwyd yn Auschwitz. Tystiodd pennaeth y gwersyll, [[Rudolf Höss]] i hyd at 2.5 miliwn farw, ond y farn gyffredinol yn awr yw i rhwng 1.1 miliwn a 1.6 miliwn gael eu lladd. Lladdwyd y mwyafrif yn y siamberi nwy yn Birkenau, gan ddefnyddio nwy Zyklon-B.