Lefiathan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: eo:Levjatano
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Destruction_of_Leviathan.png|250px|bawd|Duw yn lladd '''Lefiathan''' (engrafiad gan [[Gustave Doré]], [[1865]])]]
Anghenfil mawrchwedlonol dinistriol sy’n byw yn nyfnderoedd y [[môr]] yw '''Lefiathan'''. Cyfeirir at Lefiathan sawl gwaith yn [[y Beibl]]. [[Duw]] a’i creodd ''er difyrrwch'' (gw. Salm. 104.25-26).
 
Ceir disgrifiad llawn a lliwgar yn [[Llyfr Job]] (Job 41). Dywedir amdano, ''Nid oes tebyg iddo ar y ddaear, creadur heb ofn dim arno. Y mae’n edrych i lawr ar bopeth uchel; ef yw brenin yr holl anifeiliaid bach'' (Job 41.33-34). Dywed Duw wrth [[Job]] am Lefiathan, ''Os ceisir ei drywanu â’r cleddyf, ni lwyddir, nac ychwaith â’r waywffon, na’r dagr, na’r bicell. Y mae’n trafod haearn fel gwellt, a phres fel pren wedi pydru. Ni all saeth wneud iddo ffoi, ac y mae’n trafod cerrig-tafl fel us. Fel sofl yr ystyria’r pastwn, ac mae’n chwerthin pan chwibana’r bicell'' (Job 41.26-29). Mae’n ddychrynllyd ei olwg. Pan ddaw Duw i waredu [[Israel]] bydd ''yn cosbi Lefiathan, y sarff wibiog, Lefiathan, y sarff gordeddog, ac yn lladd y ddraig sydd yn y môr'' (Eseia 271). Mae ganddo sawl pen yn ôl y Salmydd: ''Ti, â’th nerth, a rannodd y môr; torraist bennau’r dreigiau yn y dyfroedd. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan, a’i roi’n fwyd i fwystfilod y môr'' (Salm 74.13-14).