Ska: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:26, 27 Hydref 2004

Mae Ska yn fath o gerddoriaeth sy'n hanu o Jamaica a ddaeth i'r yn gyntaf yn ystod yr 1950-60au yn Jamaica. Cerddoriaeth ydyw sy'n cyfuno dylanwadau Sbaeneg/Caribiaidd gyda rhythmau Affricanaidd. Mae'r pwyslais pob amser ar yr 'off-beat' h.y. mae'n groes-acennog iawn.

Mae 3 cyfnod o Ska:

1. Jamaica 1960au - Cerddoriaeth tebyg i beth sy'n cael ei adnabod heddiw fel Reggae, gydag artistiaid blaenllaw fel Prince Buster, Skatalites ar Maytals.

2. Lloegr 1980au - Caiff y cyfnod yma hefyd ei hadnabod fel 2 Tone ar ol y cwmni recordiau (2 Tone) oedd yn flaenllaw er mwyn dod a'r bandiau i'r amlwg. Roedd y sin wedi'i lleoli yn bennaf yng Nghoventry, ac roedd y gerddoriaeth yn gyflym iawn gyda dylanwadau pyncaidd. Y prif artistiaid yn cynnwys The Specials, The Selecter, Madness a Bad Manners. Roedd y bandiau yn hoffi gwneud testun caneuon yn wleidyddol, gan fod yn wrth-hiliaeth. Mae'r glasur 'Ghost Town' gan The Specials yn nodi cyfnod 2 Tone a dechrau gyfnod o derfysg yn Lloegr.

3. California 1995+ - Roedd y bandiau yma yn gymysgu fwy gyda dylanwadau pyncaidd gan ddefnyddio llawer o 'ddistortion' yn eu caneuon. Daeth y sin ddim yn amlwg iawn, ond am fand No Doubt a ddaeth yn un o fandiau enwocaf y byd wedi'i halbwm 'Tragic Kingdom'. Ymysg y bandiau eraill, Reel Big Fish, Less Than Jake a'r Mighty Mighty Bosstones.