Theodoric Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 9:
Mewn theori roedd Theodoric yn rheoli'r Eidal ar ran yr Ymerodraeth Fysantaidd, ond yn ymarferol roedd yn frenin annibynnol. Gwnaeth gynghrair a'r [[Ffranciaid]] a phriododd Audofleda, chwaer [[Clovis I]]. Yn 505 daeth yn reolwr y Fisigothiaid ar ran ei brenin ieuanc, ei ŵyr [[Amalric]].
 
Roedd Theodoric yn parchu arferion a diwylliant Rhufain, a thuabu nifer o wŷr amlwg yn ei wasanaethu, er enghraifft bu'r hanesydd [[Cassiodorus]] yn weinidog ac ymghynghorwr iddo. Tua 520 penododd yr athronydd [[Anicius Manlius Severinus Boethius|Boethius]] yn ''magister officiorum,'', pennaeth y llywodraeth. Yn ddiweddarach collodd Boethius ymddiried Theodoric, oedd yn ei amau o gynllwynio gyda'r Ymerawdwr Bysantaidd Justinianus, a dienyddiwyd ef yn 525. Roedd Theodoric yn dilyn y fersiwn [[Ariaeth|Ariaidd]] o Gristionogaeth, ac roedd hyn yn creu tyndra rhyngddo ef a dilynwyr uniongrededd Catholig [[Cyngor Nicea]].
 
Bu Theodoric farw yn Ravenna yn 526, a chladdwyd ef yn y mawsolewm sy'n un o adeiladau mwyaf nodedig y ddinas honno. Dilynwyd ef gan ŵyr, Athalaric, gyda'i fam Amalasuntha yn rheoli drosto o 526 hyd 534. Collodd teyrnas yr Ostrogothiaid ei nerth yn y blynyddoedd yn dilyn marwolaeth Theodoric, a gyrrodd [[Justinianus I]] y cadfridog [[Belisarius]] i ymgyrchu yn yr Eidal. Erbyn 553 roedd teyrnasiad yr Ostrogothiaid yn yr Eidal ar ben.