John Davies (hanesydd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dol
100 lle a'r Gwyddoniadur
Llinell 1:
[[Hanesydd]] [[Cymry|Cymreig]] yw '''John Davies''' (ganed [[1938]]), sydd hefyd yn adnabyddus fel darlledydd. Ei lyfr enwocaf yw ''[[Hanes Cymru (llyfr)|Hanes Cymru]]'' (ail argraffiad 2006), sy'n cael ei ystyried gan lawer o feirniaid fel y gyfrol orau i'w chyhoeddi ar y pwnc.
 
Ganed John Davies yn y [[Rhondda]]<ref>[http://www.bbc.co.uk/wales/mid/sites/lampeter/pages/johndavies.shtml BBC Wales] Proffil o John Davies</ref>, ond symudodd ei deulu i bentref [[Bwlchllan]] ger [[Llanbedr Pont Steffan]] pan oedd yn saith oed a chaiff ei adnabod gan lawer fel '''John Bwlchllan'''. Addysgwyd ef yn ysgolion [[Treorci]], Bwlchllan a [[Tregaron|Thregaron]], yna ym [[Prifysgol Cymru, Caerdydd|Mhrifysgol Cymru, Caerdydd]] a [[Coleg y Drindod, Caergrawnt|Choleg y Drindod, Caergrawnt]]. Daeth yn aelod o Adran Hanes Cymru ym [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth]] ac yn Warden Neuadd Pantycelyn yno. Wedi ymddeol, symudodd i fyw i [[Caerdydd|Gaerdydd]]. Mae ei wraig yn frodor o [[Blaenau Gwent|Flaenau Gwent]], ac mae ganddynt ddwy ferch a dau fab.
 
John Davies oedd ysgrifennydd cenedlaethol cyntaf [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]].
 
Yn [[2005]] cyflwynwyd [[Gwobr Glyndŵr]] iddo yn ystod Gŵyl [[Machynlleth]] am ei gyfraniad i'r celfyddydau yng Nghymru. Ef yw golygydd cyffredinol [[Gwyddoniadur Cymru]] yr Academi Gymreig.<ref>[http://www.llenyddiaethcymru.org/rhestr-o-awduron/i/130679/desc/davies-john/ Gwefan Llenyddiaeth Cymru]; adalwyd 05/01/2013.</ref>
 
===Cyhoeddiadau===
Llinell 19:
*''Y Celtiaid'' (2001)
*''Cardiff : a pocket guide'' (2002)
*Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw; Gwasg Y Lolfa (2009).<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8370000/newsid_8379400/8379455.stm Gwefan y BBC]; Hanesydd a ffotograffydd yn creu cyfrol ; adalwyd 05/01/2012</ref>
 
==Cyfeiriadau==