Brad y Llyfrau Gleision: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
::''Gweler hefyd [[Brad (gwahaniaethu)]].''
 
Adroddiad ar gyflwr [[addysg]] yng [[Cymru|Nghymru]] a gomisiynwyd gan senedd [[San Steffan]] oedd '''Brad y Llyfrau Gleision'''. Cyflwynwyd yr Adroddiad terfynnol yn haf [[1847]]. Cyfeiria lliw y llyfrau at y clawr glas a roddwyd arnynt (lliw traddodiadol papurau swyddogol llywodraeth [[Y Deyrnas Unedig|Prydain]]). Mae'r enw ei hun yn fwysair ar [[Brad y Cyllyll Hirion|Frad y Cyllyll Hirion]], pan laddwyd nifer o bendefigion y [[Brythoniaid]] trwy ddichell y [[Saeson]], yn ôl traddodiad, wedi i [[Hengist]] wahodd [[Gwrtheyrn]] i'w wledd. Y bardd a gwladgarwr [[R.J. Derfel]] a fathodd yr enw.
 
Comisiynwyd yr Adroddiad yn dilyn cais [[William Williams]], [[Aelod Seneddol]] [[Coventry]] ond Cymro o [[Llanpumpsaint|Lanpumpsaint]], [[Sir Gaerfyrddin]] yn wreiddiol. Roedd yn ddyn hynod o wrth-Gymraeg ac yn Sais-addolwr. Yn ôl Williams, roedd angen trefn addysg newydd fel y byddai'r Cymry "''instead of appearing as a distinct people, in no respect differ from the English''". Troi'n Sais o ran iaith a meddylfryd oedd yr ateb i gyflwr y Cymry. Roedd y Cymry dan anfantais oherwydd "''the existence of an ancient language''".<ref>Dyfynnir yn ''Aros Mae'' gan Gwynfor Evans (Abertawe, 1971), t. 260</ref>
 
Yn dilyn dros degawd o anghydfod - terfysgoedd ym [[Merthyr Tudful|Merthyr]] yn [[1831]], y [[Mudiad y Siartwyr|Siartwyr]] yn [[Y Drenewydd]] a [[Casnewydd|Chasnewydd]] yn [[1839]] a [[Merched Beca]] trwy gydol y ddegawd cyn [[1846]], roedd pryder cyffredin ymysg y Sefydliad ar y pryd am sefyllfa gymdeithasol a moesol y Cymry. Teimlai nifer mai'r [[Gymraeg]] a diffyg addysg ([[Saesneg]]) oedd gwraidd nifer o'r trafferthion. Meddai'r ''[[The Times|Times]]'' o [[Llundain|Lundain]] am y Gymraeg:
:"''Its prevalence and the ignorance of English have excluded and even now exclude the Welsh people from the civilisation of their English neighbours. An Eisteddfod... is simply a foolish interference with the natural progress of civilisation and prosperity.''" <ref>Dyfynnir yn ''Aros Mae'', t. 262</ref>