Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ynys Lawd"

Ychwanegwyd 47 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(hanes y goleudy)
B
[[Delwedd:Goleudy_Ynys_Lawd_T.Creswick_W.Radclyffe.JPG|250px|bawd|Llonddrylliad ar y creigiau ger '''Ynys Lawd''' (engrafiad gan W. Radclyffe o lun gan T. Creswick, tua 1850-60)]]
[[Ynys]] fach ar [[penrhyn|benrhyn]] mwyaf gorllewinol [[Ynys Gybi]], ar [[Môn|Fôn]], a gysylltir â'r tir mawr gan bont fach.
 
Daw'r enw Saesneg ''South Stack'' o'r gair [[Hen Norseg|Sgandinafaidd]] ''stak'', sef "ynys" (gweler hefyd [[Ynys Arw]], a elwir ''North Stack'' yn Saesneg). Ystyr arferol y gair Cymraeg ''lawd'' yw "gwres", sef gwres anifeiliad yn neilltuol, ond mae arwyddocâd yr enw yn yr achos hwn yn ddirgelwch.
 
Ceir [[goleudy]] enwog ar yr ynys sydd bellach yn atyniad twristaidd. Codwyd y goleudy cyntaf ar Ynys Lawd yn [[1809]]. Cynlluniwyd y goleudy presennol gan y pensaer [[Joseph Nelson]] a chafodd ei godi gan y peirianydd sifil Daniel Alexander. Costiodd o gwmpas £12,000. Er [[1984]] mae'r goleudy wedi cael ei reoli o hirbell o ganolfan gwylio'r glannau [[Caergybi]].
 
[[Categori:Ynysoedd Cymru|Lawd]]
[[Categori:Ynys Môn]]
 
[[en:South Stack]]