Hydrocarbon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Myrddin1977 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Myrddin1977 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
==Adeiledd hydrocarbonau==
Mae gan carbon yr allu i ffurfio [[bond cemegol|bondiau cemegol]] i'w hun i ffurfio cadwyn neu gylch o atomau carbon. Gall yr elfen hon ffurfio cyfansoddion tebyg yn cynnwys unrhyw nifer o atomau o garbon gyda hydrogen yn cwblhau plisgyn falens bob atom carbon trwy ffurfio [[bond cofalent|bondiau cofalent]] iddo. Mae nifer o deuluoedd o gyfansoddion yn cael eu creu, yn dibynnu ar natur y bondio cofalent rhwng yr atomau carbon.
 
===[[alcan|Alcanau]]===
Teulu o hydrocarbonau dirlawn, sef hydrocarbonau sydd yn cynnwys bondiau cofalent sengl yn unig yw'r alcanau. Fformiwla cyffredinol y rhain yw C<sub>n</sub>H<sub>2n+2</sub>.
 
===[[alcen|Alcenau]]===
Teulu o hydrocarbonau annirlawn, sef hydrocarbonau sydd yn cynnwys bondiau cofalent dwbl yw alcenau. Mae pob alcen yn cynnwys un bond dwbl rhwng pâr o atomau carbon, felly nid oes alcen yn bodoli gydag un carbon yn unig. Mae pob bond arall yn bond cofalent sengl. Fformiwla cyffredinol y rhain yw C<sub>n</sub>H<sub>2n</sub>.
 
===[[alcyn|Alcynau]]===
Teulu o hydrocarbonau annirlawn yw'r rhain hefyd. Maent yn cynnwys bond triphlyg rhwng pâr o atomau carbon, felly nid oes alcyn yn bodoli gydag un carbon yn unig. Yr alcyn lleiaf yw ethyn, a gelwir yn aml yn acetylen, a llosgir y moleciwl hwn wrth weldio. Mae pob bond arall yn bond cofalent sengl. Fformiwla cyffredinol y rhain yw C<sub>n</sub>H<sub>2n-2</sub>.
 
===[[Cyfansoddyn aromatig|Cyfansoddion aromatig]]===
Hydrocarbonau sy'n cynnwys systemau wedi eu seilio ar y cylch [[bensen]] a systemau aml-gylch tebyg yw cyfansoddion aromatig. Sefydlir cymylau o ddwysedd electronau dadleoledig ynddynt sydd yn creu systemau sefydlog gyda phriodweddau tra wahanol i'r hydrocarbonau eraill.
 
==Ffynonellau hydrocarbonau==
[[Tanwydd ffosil|Tanwyddau ffosil]] yw'r ffynonellau ar gyfer bron bob hydrocarbon rydym yn ei ddefnyddio. Mae'r hydrocarbonau i'w ddarganfod mewn nwy naturiol neu [[olew crai]], yn dibynnu ar eu berwbwyntiau. Mae [[nwy naturiol]] yn bennaf yn cymysgedd o hydrocarbonau gyda phedwar atom carbon neu lai, ac mae gan yr hydrocarbonau mewn olew crai pum atom carbon neu fwy. Gwahanir yr hydrocarbonau o'i gilydd ar sail eu berwbwyntiau gwahanol trwy ddefnyddio [[distylliad ffracsiynol]].
Ffurfiwyd yr hydrocarbonau allan o ddefnydd biolegol dros filiynau o flynyddoedd. Carbon ac hydrogen, ynghyd ag ocsigen, yw'r elfennau sy'n ffurfio'r mwyafrif o foleciwlau biolegol. Wrth i'r deunydd biolegol pydru'n anaerobig gall yr ocsigen cael ei ddileu o'r moleciwlau i ffurfio hydrocarbonau gwahanol.
 
{{eginyn}}
[[Categori:Cemeg]]
[[Categori:Cemeg organig]]