Iddew Crwydrad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion iaith
B dol
Llinell 1:
[[Delwedd:Wandering jew.jpg|250px|bawd|''Yr Iddew Crwydrad '' gan [[Gustave Doré]].]]
Cymeriad o [[mytholeg Gristnogol|fytholeg Gristnogol]] a [[llên gwerin]] Ewropeaidd [[yr Oesoedd Canol]] yw'r '''Iddew Crwydrad'''.<ref>Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. ''[[Geiriadur yr Academi]]'' (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1637 [wandering Jew].</ref> Mae'n [[Iddew]] a gafodd ei [[melltith|felltithio]] i grwydro'r byd hyd [[yr Ail Ddyfodiad]], yn gosb am wawdio [[Iesu]] ar ei ffordd i'r groes. Yn ôl y stori draddodiadol, roedd yr Iddew yn [[crydd|grydd]] o'r enw Ahasuerus a siasiodd Iesu i ffwrdd o'i ddrws.<ref name="Brewer's">Rockwood, Camilla (gol.). ''[[Brewer's Dictionary of Phrase and Fable]]'', 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 1400.</ref>
 
Mewn fersiwn hŷn o'r chwedl a geir yn y ''Chronicle of St Alban's Abbey'' (1228), Cartaphilus porthor llys [[Pontiws Peilat]] oedd yr Iddew a fwrodd Iesu wrth iddo fynd heibio. Yn [[yr Almaen]] fe'i elwir yn John Buttadaeus, a welwyd yn crwydro [[Antwerp]] yn y 13eg ganrif, y 15fed ganrif, a'r 16eg ganrif, ac yn [[Salt Lake City]] ym 1868. Yn ôl y chwedl [[Ffrainc|Ffrengig]], Isaac Laquedom neu Lakedion yw ei enw.<ref name="Brewer's"/>