Gabriel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 300px|bawd|Yr archangel '''Gabriel''' yn cyhoeddi i'r [[Y Forwyn Fair|Forwyn Fair y bydd hi'n beichiogi ac yn esgor ar yr Iesu (llun gan [[Fra Ange... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 22:49, 24 Ebrill 2007
Gabriel yw un o'r saith archangel yn y traddodiad Cristnogol, gyda Mihangel, Raphael, Uriel ac eraill, sy'n sefyll yn dragwyddol o flaen Duw ac yn barod i'w hanfon fel ei negesyddion i'r dynolryw. Fe'i derbynnir hefyd fel un o'r angylion gan Iddewon a Mwslemiaid.
Gabriel yw nawddsant genedigaeth. Yn ogystal fe'i cyfrifir heddiw yn nawddsant teledu a thelegyfathrebu. Gyda Mihangel mae'n warchod drysau eglwysi rhag y Diafol.
Yn y traddodiad Islamaidd mae'n cael ei barchu fel yr angel a anfonwyd gan Dduw i roi'r Coran i'r Proffwyd Mohamed.