Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 4:
 
==Ffrae'r blwch cenedligrwydd==
Yng Nghymru cafwyd ymgyrch amlwg a nifer o brotestiadau gan grwpiau ac unigolion am nad oedd y Cyfrifiad yn cynnwys blwch i nodi [[Cymry|cenedligrwydd Cymreig]].[http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/census/census-2001/design-and-conduct/review-and-evaluation/evaluation-reports/a-report-on-the-2001-census-in-wales/general-report-on-the-2001-census-in-wales---welsh.pdf] Gwrthodai sawl person lenwi'r ffurfleni am nad oeddent yn barod i ddisgrifio eu hunain fel "[[Prydeindod|Prydeinwyr]]", er i'r awdurdodau fygwth dwyn y gyfraith ar unrhyw un a wnai hynny. Ni rhyddhawyd yr ystadegau am faint o ffurflenni nas llenwyd. Gan fod rhai miloedd, o leiaf, wedi gwrthod, ni chafwyd achosion llys yn erbyn y rhai a wrthodasai. Yn ogystal â'r rhai a wrthododd yn llwyr, penderfynodd nifer [15.7%] o'r Gymryboblogaeth ysgrifennu "Cymro" yn lle ticio'r blwch yn nodi "Prydeinwr(aig) gwyn" neu anwybyddu'r cwestiwn.[http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/census/census-2001/design-and-conduct/review-and-evaluation/evaluation-reports/quality-report/census-2001-quality-report.pdf] Roedd 3,700 wedi glynu sticer dros y cwestiwn.[http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/census/census-2001/design-and-conduct/review-and-evaluation/evaluation-reports/quality-report/census-2001-quality-report.pdf]
 
==Ffrae'r iaith Gymraeg==