Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Elfen gemegol"

Ychwanegwyd 26 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
ychwanegu dolen i Wiciadur using AWB
(ychwanegu dolen i Wiciadur using AWB)
Mae rhai elfennau wedi eu hadnabod am oes hir ac mae eu henwau felly wedi eu tarddu blynyddoedd hir yn ôl. Esiamplau o'r elfennau adnabuwyd yn gynnar yw [[copr]], [[aur]] ac [[arian (elfen)|arian]]. Dros y canrifoedd diwethaf, llwyddodd cemegwyr i arunigo llawer o elfennau ychwanegol, ac fel arfer rhoddir enw i'r elfen gan y cemegydd gwnaeth ei harunigo a'i hadnabod yn elfen. Rhaid i'r enw a'i sillafu cael eu cytuno gan IUPAC (''International Union of Pure and Applied Chemistry''). Dewisir enw'r elfen am nifer o resymau, yn cynnwys priodweddau'r elfen, tarddiad y sampl sy'n cynnwys yr elfen, rhesymau gwlatgar neu ar ôl gwyddonwyr enwog:
* [[Clorin]], ar ôl lliw gwyrdd y nwy.
* [[Ytriwm]], [[Terbiwm]], [[Yterbiwm]] ar ôl Yterby, lle ddarganfuwyd y mwyn cyntaf oed yn cynnwys yr elfennau.
* [[Poloniwm]], ar ôl [[Gwlad Pwyl]], mamwlad ei arunigydd, [[Marie Curie]].
* Curiwm, ar ôl Pierre a Marie Curie.
 
Rhoddir symbol cemegol i bob elfen yn ychwanegol at yr enw. Mae pob symbol yn un briflythyren (H, O, N, S), neu briflythyren yn cael ei ddilyn gan lythyren fach (He, Os, Ne, Sb). Defnyddir y symbol er mwyn cadw gwybodaeth yn gryno ac i wneud trosglwyddo gwybodaeth o un wlad i'r llall ac o un iaith i'r llall yn haws. Yn aml mae'r symbol yn seiliedig ar enw'r elfen, ond yr enw Lladin yw'r sail am nifer ohonynt. Rhestrir yr ugain elfen gyntaf yma:
* '''Al''' am Alwminiwm
* '''Si''' am Silicon
* '''P''' am Ffosfforws, o'r enw Saesneg 'phosphorus'
* '''S''' am Sylffwr
* '''Cl''' am Clorin
* [[Rhestr elfennau yn nhrefn eu darganfyddiad]]
* [[Hen enwau Cymraeg am yr elfennau]]
 
 
 
{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}}
 
[[Categori:Elfennau cemegol|*]]
452,433

golygiad