Ogam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu fymryn |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5:
Mae'r arysgrifau Ogam "clasurol" i'w cael yn [[Iwerddon]], [[Cymru]], [[Yr Alban]] ac [[Ynys Manaw]], gydag ychydig yn [[Lloegr]], a'r mwyafrif yn dyddio o'r [[5ed ganrif|bumed]] a'r [[chweched ganrif]]. Maent wedi eu hysgrifennu mewn [[Hen Wyddeleg]], ond gan mai enwau personau yn unig yw llawer o'r arysgrifau, nid oes modd cael llawer o wybodaeth ieithyddol ohonynt.
Credir fod y sgript wedi ei dyfeisio tua diwedd y bedwaredd ganrif neu ddechrau'r bumed, efallai gan [[Cristnogaeth|Gristionogion]] cynnar yn ne Iwerddon, lle mae arysgrifau ogam yn arbennig o niferus yn y siroedd arfordirol o [[Kerry]] hyd [[Waterford]]. Awgrym arall yw fod y sgript wedi ei dyfeisio gan Wyddelod yn byw yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif, oedd wedi dod i gysylltiad a'r wyddor [[Lladin|Ladin]]. Yn yr Alban mae nifer o arysgrifau Ogham na wyddir beth yw eu hiaith; maen'n bosibl bod nifer
Ffurfir y llythrennau gan linellau, un ai ar ymyl carreg neu ar draws llinell syth wedi ei thorri yn y garreg. Darllenir o'r ochr chwith ar waelod y garreg. Mae'r wyddor yn cynnwys ugain llythyren (''feda''), wedi eu trefnu yn bedair cyfres (''aicmí'').
|