Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Arwyddion dwyieithog"

Ychwanegwyd 35 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
B
B (r2.7.1) (robot yn ychwanegu: uk:Двомовні вказівники)
Mae gwledydd y [[Maghreb]], sef [[Algeria]], [[Moroco]] a [[Tunisia]], yn wledydd lle defnyddir [[Ffrangeg]] ar raddfa eang fel canlyniad o'r cyfnod pan fuont yn drefedigaethau Ffrengig. [[Arabeg]] yw'r iaith swyddogol yn y gwledydd hyn, ond mae nifer o bobl yn siarad Ffrangeg fel ail iaith ac mae dwyiethrwydd Arabeg-Ffrangeg yn beth cyffredin, yn enwedig yn Algeria a Tunisia gyda'r Ffrangeg yn iaith swyddogol ochr yn ochr â'r Arabeg yn yr olaf. Mae arwyddion ffyrdd ar y priffyrdd a'r ardaloedd trefol a thwristaidd yn dilyn y patrwm Ewropeaidd gydag arwyddion dwyieithog Arabeg a Ffrangeg, yn y drefn honno fel rheol. Defnyddir trawlythreniad i'r Ffrangeg o enwau lleoedd, e.e. [[Alger]] (''Algiers'') am ''al-Jazā'ir'', prifddinas Algeria. Yn ogystal, mae'n arferol cael arwyddion dwyieithog am enwau strydoedd ac mae nifer o siopau a busnesau eraill yn defnyddio arwyddion Arabeg-Ffrangeg hefyd. Mae'r arwyddion rheoli traffig rhyngwladol yn cael eu defnyddio gyda'r neges yn llythrennau'r wyddor Ladin (e.e. 'STOP' "AROS" a 'P' "Parcio") ochr yn ochr â'r fersiwn Arabeg (e.e. قف/STOP). Ond gan amlaf mae unrhyw wybodaeth ychwanegol mewn Arabeg yn unig, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig.
 
[[Image:BeddMoroccan stop sign in Arabic and Berber.jpg|thumb|200px|right|Arwydd 'AROS' yn [[Nador]] ([[Moroco]]) yn [[Arabeg]] a [[Ieithoedd Berber|Berbereg]], a ymddangosodd ar 29 Ebrill 2003 ond a ddiflanodd yn ystod y nos.]]
Yn y gwledydd hyn (yn enwedig yn Algeria a Moroco), siaredir un neu ragor o'r [[ieithoedd Berber]] gan ganran o'r trigolion, ac mae hifer o siaradwyr Berbereg wedi bod yn ymgyrchu ers tro byd i gael statws swyddogol i'r iaith neu o leiaf i gael cydnabyddiaeth ehangach ohoni ym mywyd cyhoeddus y gwledydd hyn. Un o'r pethau mae ymgyrchwyr [[Berber]] wedi bod yn gofyn ydy cael arwyddion teirieithog - Arabeg/Berbereg/Ffrangeg - ond hyd yn hyn nid ydynt wedi llwyddo i berswadio'r awdurdodau gwladol i gymryd camrau i'r cyfeiriad hwn.
 
68

golygiad