Aloffon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mattie (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Mattie (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mewn [[ffonoleg]], un o set [[sain|synau]] llafar (neu [[ffon]]au) posibl a ddefnyddir i ynganu [[ffonem]] yw '''aloffon''' (o'r [[Groeg|Roeg]]: ἄλλος, ''állos'', "arall" a φωνή, ''phōnē'', "llais, sain"). Er enghraifft, mae [l] (fel mewn ''pi'''l'''i-pa'''l'''a'') ac [l̥] (fel mewn ''c'''l'''ust'' [kl̥ɪsd]) yn aloffonau'r ffonem /l/ yn [[Cymraeg|Gymraeg]].<ref>Ball, Martin John, a Nicole Müller. ''[http://books.google.ca/books?id=YS3fguS7z6IC&pg=PA103&lpg=PA103 Mutation in Welsh].'' [[Llundain]]: Routledge, 1992, tud. 103.</ref> Er bod aloffonau yn [[cynaniad|gynaniadau]] gwahanol ar gyfer yr un ffonem, gellir yn aml ragweld pa aloffon fydd yn cael ei dewis mewn sefyllfa benodol. Fel arfer, dydy newid aloffon y mae siaradwyr brodorol yn ei defnyddio mewn cyd-destun penodol ddim yn newdid ystyr y gair, ond mae'n bosibl bod y canlyniad yn swnio'n ddieithr neu'n annealladwy. Mae siaradwyr brodorol fel arfer yn canfod un ffonem yn eu hiaith fel sŵn unigrwy, unigol yn yr iaith honno ac maen nhw'n "ymwybodol o ac hyd yn oed yn cael eu synnu gan" yr amrywiadau aloffonegol a ddefnyddir i gynanu ffonemau unigol.<ref group="c">"''both unaware of and even shocked by''"</ref><ref name="ref89rahec">{{Citation | title=Linguistics and Phonetics | author=B.D. Sharma | publisher=Anmol Publications Pvt. Ltd., 2005 | isbn=978-81-261-2120-5 | url=http://books.google.com/books?id=rDs8sJ5snrUC | quote=''... The ordinary native speaker is, in fact, often unaware of the allophonic variations of his phonemes ...''}}</ref><ref name="ref06hozep">{{Citation | title=Phonology as human behavior: theoretical implications and clinical applications | author=Y. Tobin | publisher=Duke University Press, 1997 | isbn=978-0-8223-1822-4 | url=http://books.google.com/books?id=NmBYJdTJjKkC | quote=''... always found that native speakers are clearly aware of the phonemes of their language but are both unaware of and even shocked by the plethora of allophones and the minutiae needed to distinguish between them ...''}}</ref>
 
==Hanes y cysyniad==
Cafodd y gair ''aloffon'' (yn [[Saesneg]]: ''allophone'') ei fathu gan [[Benjamin Lee Whort]] yn y 1940au. Wrth wneud hynny, cyfnerthodd ddamcaniaeth [[ffonem]]egol gynnar.<ref>{{cite book|last=Lee|first=Penny|year=1996|title=The Whorf Theory Complex&nbsp;— A Critical Reconstruction|publisher=John Benjamins | ref = harv |pages=46, 88}}</ref> Poblogeiddiodd G. L. Trager a [[Bernard Bloch]] y gair mewn papur 1941 am [[ffonoleg]] Saesneg,<ref>{{cite journal|last=Trager|first=George L.|title=The Systematization of the Whorf Hypothesis|journal=Anthropological Linguistics|volume= 1|issue=1|publisher=Operational Models in Synchronic Linguistics: A Symposium Presented at the 1958 Meetings of the American Anthropological Association|year= 1959|pages=31–35 | ref = harv }}</ref> ac aeth y term i fod yn rhan o'r defnydd safonol yn nhraddodiad [[Strwythuriaeth|strwythuraidd]] Americanaidd.<ref>{{cite book|first=Dell H. |last=Hymes|first2=John G. |last2=Fought|title=American Structuralism|publisher=Walter de Gruyter|year= 1981|ref=harv|page=99}}</ref>
 
==Cyfeiriadau==
<div class="references-small"><references /></div>
 
===Cyfieithiadau===