Crefyddau Abrahamig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: az:İbrahimi dinlər
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:ReligionSymbolAbr4 Abrahamic symbols.PNGpng|ewin bawd|130px|de|Symbolau y tair crefydd Abrahamig]]
[[Crefydd]]au sy'n deillio, yn ôl eu proffeswyr, o'r cyfamod rhwng [[Duw]] ac [[Abraham]] (a ddyddir gan rai i tua 2000 CC) yw'r '''crefyddau Abrahamig'''. Y tair crefydd Abrahamig yw [[Iddewiaeth]], [[Cristnogaeth]] ac [[Islam]]. Y cysyniad o [[Undduwiaeth]] ac arddel Abraham fel un o'r [[proffwyd]]i mawr yw'r prif elfennau sy'n gyffredin i'r tair crefydd, ond rhennir llawer o nodweddion eraill hefyd. Fel y mae Cristnogion yn ystyried y Gristnogaeth (sef dysgeidiaeth [[Iesu Grist]] yn y ''[[Testament Newydd]]'') yn olynydd i Iddewiaeth (sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth a thraddodiadau'r ''[[Hen Destament]]''), mae Mwslemiaid yn credu y cafodd ysgrythurau'r Iddewon a'r Cristnogion eu "llygru" gyda threigl amser a bod eu llyfr sanctaidd, y ''[[Coran]]'', wedi cael ei ddatguddio i'r proffwyd [[Mohamed]] i adfer y Gwir ysgrythurol.
{{eginyn crefydd}}