Alecsander Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dadwneud y golygiad 1403697 gan 81.106.23.219 (Sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 1:
[[Delwedd:BattleofIssus333BC-mosaic-detail1.jpg|thumb|right|250px|AlecAlecsander ym mrwydr Issus. [[Mosaic]] yn Amgueddfa Archaeolegol Gendelaethol [[Napoli]]]]
 
'''AlecAlecsander III, brenin [[Macedon]]''', a elwir yn '''AlecAlecsander Fawr''' [[21 Gorffennaf]] [[356 CC]] - [[13 Mehefin]] [[323 CC|323]] oedd brenin Macedon rhwng 336 a 323. Cafodd ei eni yn ninas [[Pella]], prifddinas Macedon, yn fab i [[Philip II, brenin Macedon|Philip II]] a'i wraig [[Olympias]]. Concwerodd y rhan fwyaf o'r [[Ymerodraeth Bersaidd]] a rhan fawr o hynny o'r byd oedd yn wybyddus yn ei amser ef.
 
Yr oedd tad AlecAlecsander, Philip II, wedi adeiladu byddin effeithiol dros ben ac wedi concro dinasoedd [[Groeg yr Henfyd|Groeg]]. Yn 13 oed rhoddwyd ef dan ofal [[Aristoteles]] fel tiwtor. Erbyn 340 yr oedd ei dad eisoes yn rhoi rhan iddo yn llywodraeth y deyrnas. Yn [[338 CC]], ef oedd pennaeth adain chwith byddin Philip ym [[Brwydr Chaeronea (338 CC)|Mrwydr Chaeronea]], buddugoliaeth a wnaeth Philip yn feistr ar Wlad Groeg.
 
Y flwyddyn wedyn, bu rhwyg rhwng AlecAlecsander a'i dad, pan ysgarodd Philip fam AlecAlecsander, Olympias, er mwyn priodi [[Cleopatra Eurydice o Facedon|Eurydice]]. Ffôdd AlecAlecsander ac Olympias i [[Epirus]] am gyfnod, cyn cymodi a Philip a dychwelyd. Llofruddiwyd Philip yn 336 CC gan Pausanias, aelod o'i warchodlu. Daeth AlecAlecsander yn frenin, ond yr oedd nifer o ddinasoedd Groeg wedi codi mewn gwrthryfel wedi clywed y newyddion am farw ei dad. Dangosodd AlecAlecsander ei allu milwrol trwy roi terfyn buan ar y gwrthryfel.
 
Yr oedd Philip eisoes wedi bwriadu ymosod ar yr ymerodraeth Bersaidd, a gweithredodd AlecAlecsander ar gynlluniau ei dad. Croesodd i [[Asia Leiaf]] a gorchfygodd y Persiaid ym [[Brwydr Granicus|mrwydr Granicus]]. Llwyddodd i osod ei awdurdod ar y rhan fwyaf o ddinasoedd Groeg gorllewin Asia Leiaf a theyrnasoedd fel [[Mysia]], [[Lydia]], [[Caria]] a [[Lycia]]. Llwyddodd ei gafrdidog [[Parmenion]] i dawelu [[Phrygia]]. Y flwyddyn ganlynol aeth ymhellach i'r dwyrain. Ymunodd byddinoedd AlecAlecsander a Parmenion ac aethant yn eu blaen trwy'r [[Pyrth Cilicia]] enwog ac i lawr i wastadiroedd [[Cilicia]]. Gorchfygodd frenin Persia, [[Darius III, brenin Persia|Darius III]], ym [[Brwydr Issus|mrwydr Issus]] (ar y ffin â [[Syria]] heddiw).
 
[[Delwedd:Aleksander-d-store.jpg|thumb|left|250px|Cerfddelw o AlecAlecsander Fawr]]
 
Yn hytrach na dilyn Darius, troes AlecAlecsander ei olygon i'r de. Roedd yn hanfodol iddo dorri'r cysylltiad rhwng Darius a llynges y Persiaid ar [[Môr Canoldir|Fôr y Canoldir]], a oedd yn fygythiad i Asia Leiaf a Macedon ei hun. Concrodd AlecAlecsander [[Ffenicia]] wedi gwarchae saith mis ar ddinas [[Tyrus]]. Anafwyd ef yn ddifrifol yn ystod y gwarchae ar ddinas [[Gaza]], a bu raid iddo aros yno am ddau fis i wella. Aeth ymlaen i'r [[Yr Hen Aifft|Aifft]], lle cyhoeddwyd ef yn fab y duw [[Amon]] ar ôl ymweliad â [[Teml Jupiter-Ammon|Theml Jupiter-Ammon]] yn [[Siwa]], ger y ffin â thalaith [[Cyrenaica]] ([[Libya]] heddiw). Sefydlodd ddinas [[Alexandria]] yn yr Aifft, un o nifer o ddinasoedd a sefydlodd sy'n dwyn ei enw. Yn 331 gorchfygodd Darius eto ym [[Brwydr Gaugamela|mrwydr Gaugamela]] ar lan [[Afon Tigris]]. Ychydig yn ddiweddarach lladdwyd Darius gan ei ŵyr ei hun wrth iddo geisio ffoi am loches i ogledd [[Iran]].
 
Trodd AlecAlecsander ei olygon i ogledd-ddwyrain yr ymerodraeth. Aeth trwy diriogaeth gorllewin a de [[Affganistan]] trwy [[Herat]] ac ardal [[Helmand]]. Croesodd yr [[Hindu Kush]] ar ddechrau'r gaeaf a choncrodd [[Bactria]]na, lle priododd y dywysoges [[Roxana]]. Gadwodd rhai hen filwyr i sefydlu dinasoedd newydd; y mwyaf anghysbell o'r rhain oedd [[Alexandria Eschate]] ar lan [[Syr Darya|afon Jaxartes]] (yn [[Tajikistan]] heddiw). Croesodd brif gadwyn yr Hindu Kush, tros [[Bwlch Khyber|Fwlch Khyber]], a disgynodd i ddyffryn [[Afon Indus]], lle gorchfygodd y brenin Indiaidd [[Porus]] ym [[Brwydr Hidaspes|mrwydr Hidaspes]]. Ar ôl anfon rhan o'r fyddin yn ôl trwy Afghanistan i warchod y taleithiau yno, dychwelodd AlecAlecsander a rhan arall ei fyddin i'r Dwyrain Canol trwy ddilyn arfordir de Pacistan ac Iran. Ar y daith beryglus ac anodd collwyd nifer o filwyr, yn arbennig wrth groesi anialdiroedd [[Makran]]. Ceisiodd y llynges dan arweiniad [[Perdiccas]], a adeiladwyd gan AlecAlecsander ar Afon Indus, gysgodi'r fyddin, ond yn aflwyddianus.
 
Bu farw AlecAlecsander ym [[Babilon|Mabilon]], [[Mesopotamia]] yn 32 oed. Mae ansicrwydd beth yn union oedd y clefyd a'i lladdodd; math o dwymyn mae'n ymddangos. Wedi ei farwolaeth bu ymladd ffyrnig ymysg ei gadfridogion am ei deyrnas. Ganwyd ei fab, hefyd yn AlecAlecsander, i Roxane wedi marwolaeth ei dad. Daeth ef yn frenin mewn enw am gyfnod byr fel [[AlecAlecsander IV o Facedonia|AlecAlecsander IV]], ond o fewn ychydig flynyddoedd nid oedd neb o deulu AlecAlecsander yn parhau'n fyw.
 
Ymhlith y mwyaf llwyddiannus o'r cadfridogion fu'n ymladd am ran o'i deyrnas gellir enwi [[Ptolemi I Soter|Ptolemi]] a ddaeth i rym yn yr Aifft a [[Seleucus I Nicator|Seleucus]] a enillodd ran helaeth o [[Asia]].
 
Tyfodd nifer o chwedlau am AlecAlecsander yn y dwyrain a daeth yn ffigwr [[llên gwerin]]. Daeth rhai o'r chwedlau hyn i Ewrop yn yr [[Oesoedd Canol]], gan gynnwys Cymru (cyfeirir at AlecAlecsander mewn cerdd am ei anturiaethau chwedlonol sydd i'w chael yn [[Llyfr Taliesin]]). Cyfeirir ato yn y [[Beibl]] a'r [[Coran]].
 
Un o edmygwyr mawr AlecAlecsander oedd [[Napoleon]], a gadwai gopi o hanes ei fywyd wrth erchwyn ei wely.
 
== Gweler hefyd ==
* [[Alexandria (gwahaniaethu)|Rhestr o leoedd a enwir yn Alexandria]]
 
[[Categori:AlecAlecsander Fawr| ]]
[[Categori:Groegiaid]]
[[Categori:Groeg yr Henfyd]]