Marcus Junius Brutus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
Amtin (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[Senedd Rhufain|Seneddwr Rhufeinig]], sy'n fwyaf enwog am ei ran yn llofruddiaeth [[Iŵl Cesar]], oedd '''Marcus Junius Brutus''' ([[85 CC]] - [[42 CC]]),
 
Roedd Brutus yn fab i [[Marcus Junius Brutus yr Hynaf]] a [[Servilia Caepionis]], a ddaeth yn gariad Cesar yn ddiweddarach. Mabwysiadwyd Brutus gan ei ewythr, Quintus Servilius Caepio. Pan ddatblygodd [[rhyfel cartref]] rhwng [[Pompeius Magnus]] a Iŵl Cesar, ochrodd gyda Pompeius. Wedi i Gesar ennill buddugoliaeth ym [[Brwydr Pharsalus|Mrwydr Pharsalus]], ysgrifennodd at Gesar i'w gyfiawnhau ei hun, a maddeuodd CesatCesar iddo. Apwyntiodd Cesar ef yn llywodraethwr [[Gâl]] pan aeth ef i Affrica i ddelio a [[Cato]] a [[Metellus Scipio]]. Yn 45 CC, ysgarodd ei wraig gyntaf i briodi [[Porcia Catonis]], merch Cato.
 
Erbyn hyn roedd nifer o seneddwyr yn pryderu fod Cesar yn dod yn rhy bwerus, a pherswadiwyd Brutus i ymuno a chynllwyn yn ei erbyn. Llofruddiwyd Cesar ar [[15 Mawrth]] [[44 CC]]. Ymddengys nad oes gwir yn y stori i Gesar ddweud ''Et tu, Brute?'' ("Tithau hefyd, Brutus?").