Huntingdon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
info i cy using AWB
Pellter o Gaerdydd ayb using AWB
Llinell 21:
 
[[Delwedd:Huntingdon Old Bridge.jpg|bawd|left|250px|Hen Bont Huntingdon sy'n cysylltu Huntingdon (ar y dde) â [[Godmanchester]] (ar y chwith)]]
Tref yn nwyrain [[Lloegr]] yw '''Huntingdon'''. Yn hanesyddol, tref sirol [[Swydd Huntingdon]] oedd hi, ond adeg ail-drefnu llywodraeth leol ym [[1965]] a [[1974]], cyfunwyd Swydd Huntingdon, [[Peterborough]] a [[Swydd Gaergrawnt]]. Maent bellach yn rhan o sir seremonïol Swydd Gaergrawnt. Mae tref Huntingdon yn dal i weithredu fel canolfan weinyddol ardal Swydd Huntingdon gynt. Mae tua 20,000 o bobl yn byw yn y dref. Saif ar [[Afon Ouse Fawr]] yn agos i drefi marchnad eraill yr ardal, [[St Ives]] a [[St Neots]]. Mae Caerdydd 227.2 [[cilometr|km]] i ffwrdd o Huntingdon ac mae Llundain yn 91.2 km. Y ddinas agosaf ydy [[Caergrawnt]] sy'n 26 km i ffwrdd.
 
 
Ganwyd [[Oliver Cromwell]] yn y dref yn [[1599]], ac fe'i cynrychiolodd yn [[Tŷ'r Cyffredin|Nhŷ'r Cyffredin]] am ddwy flynedd o [[1628]] i [[1629]]. Lleolir Amgueddfa Cromwell yn ei hen ysgol ramadeg yng nghanol Huntingdon. Ei thrigolyn enwog arall yw [[John Major]], prif weinidog Prydain o [[1990]] tan [[1997]], ac aelod seneddol dros Swydd Huntingdon o [[1979]] i [[1983]] a thros Huntingdon o [[1983]] i [[2001]].