Lindisfarne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JYBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: fa:لیندسفارن، مونتانا
manion
Llinell 1:
[[Image:Lindisfarne castle 3.jpg|thumbnail|263px|right|[[Castell Lindisfarne]]]]
 
Ynys ger arfordir [[Northumberland]] yng ngogledd-ddwyrain [[Lloegr]] yw '''Lindisfarne''', hefyd '''Holy Island''', (hen enw Cymraeg: '''Ynys Metcaud'''). HeblawAr arwahân i adegau o lanw uchel, mae modd gyrru car i'r ynys. Roedd y boblogaeth yn 162 yn [[2001]]. Dynodwyd rhan helaeth o'r ynys yn Warchodfa Natur, a cheir amrywiaeth o adar yma.
 
Yn yr ''[[Historia Brittonum]]'', a briodolir i [[Nennius]], ceir hanes gwarchae ar yr ynys. Yn y [[6ed ganrif]] gwnaed cynghrair rhwng teyrnasoedd Brythonig [[yr Hen Ogledd]] i ymladd yn erbyn yr Eingl. Bu [[Urien Rheged]], [[Rhydderch Hael]], brenin [[Ystrad Clud]], Gwallawc Marchawc Trin o [[Elmet]] a Morgant Bwlch yn gwarchae ar Eingl [[Brynaich]] ar yr ynys, wedia oedd euwedi'u gyrru o'u prifddinas Din Guardi. Fodd bynnag, roedd Morgant yn genfigennus o lwyddiant Urien, a threfnodd i Llofan Llaf Difo ei lofruddio.
 
Sefydlwyd abaty Lindisfarne gan santSant [[Aidan]] o [[Iwerddon]], a yrrwyd o [[Iona]] ar gais [[Oswald, brenin Northumbria]] tua [[635]]. Yn ddiweddarch bu nawdd-sant yr ynys, [[Cuthbert o Lindisfarne]] yn abad yma.
 
Rywbryd tua dechrau'r 700au, cynhyrchwyd [[Efengylau Lindisfarne]] yma. Yn [[793]] ymosodwyd ar yr ynys gan y Llychlynwyr; ystyrir mai'r ymosodiad yma oedd dechrau oes yr ymosodiadau Llychlynnaidd ar Loegr. Bu ymosodiadau pellach, gan orfodi'r myneich i adael yr ynys.