Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brwydr Passchendaele"

Ychwanegwyd 2 feit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
cadf
BNo edit summary
(cadf)
Un o frwydrau y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] rhwng Mehefin a Thachwedd [[1917]] oedd '''Brwydr Passchendaele'''; defnyddir yr enw '''Trydydd Brwydr Ypres''' amdani hefyd ac am adeg defnyddid yr enw '''Brwydr Messines 1917'''. Yr enw Almaeng yw '''Trydydd Brwydr Fflandrys''' ({{iaith-de|''Dritte Flandernschlacht''}}) a'r enw Ffrangeg yw: '''Ail Frwydr Fflandrys''' ({{iaith-fr|''2ème Bataille des Flandres''}}). Ymladdwyd y frwydr ger dinas [[Ypres]] yng [[Gwlad Belg|Ngwlad Belg]], rhwng byddin [[yr Almaen]] dan [[Max von Gallwitz]] ac [[Erich Ludendorff]], a lluoedd y cyngheiriaid, yn cynnwys milwyr o Brydain, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Ffrainc ymysg eraill, dan [[Douglas Haig]] a [[Hubert Gough]].
 
Dedleuai Prifweinidog Prydain, sef [[David Lloyd George|Lloyd George]] yn erbyn y frwydr am nifer o resymau <ref>''The Road to Passchendaele: The Flanders Offensive 1917, A Study in Inevitability'' gan John Terraine; 1977; cyhoeddwr: Leo Cooper; Llundain; isbn=0-436-51732-9</ref> a chytunai'r FfrancwrCadfridog GeneralFfrengig Ferdinand Foch gydag ef. Credodd y ddau y dylid disgwyl cymorth yr Americanwyr.
 
Dechreuodd yr ymladd yn y cylch ym mis Mehefin, a dechreuodd y frwydr ei hun ar [[31 Gorffennaf]] [[1917]]. <ref>''The German Army at Passchendaele'' gan Jack Sheldon; 2007; cyhoeddwyd gan Pen and Sword Books, Barnsley; 1-84415-564-1; 2007; tud xiv </ref> Roedd yr ymgyrch wedi ei chynllunio gan Haig, er gwaethaf gwrthwynebiad y Prif Weinidog, [[David Lloyd George]]. Y bwriad oedd torri drwy linellau'r Almaen a chipio porthladdoedd [[Oostende]] a [[Zeebrugge]], oedd yn cael eu defnyddio gan longau tanfor yr Almaen.