Gwerthefyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Gwerthefyr''' neu '''Gwerthefyr Fendigaid''' (Lladin: ''Uortiporius'' neu ''Vortimer'') (fl. 5ed ganrif) oedd fab '''Gwrtheyrn''' brenin y Brythoniaid yn [[hanes tradd...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Gwerthefyr''' neu '''Gwerthefyr Fendigaid''' ([[Lladin]]: ''Uortiporius'' neu ''Vortimer'') (fl. [[5ed ganrif]]) oedd fab '''Gwrtheyrn''' brenin y [[Brythoniaid]] yn [[hanes traddodiadol Cymru]]. Dywedir ei fod yn rhyfelwr cadarn a enillodd sawl brwydr yn erbyn y [[Sacsoniaid]] oedd yn ceisio meddianu [[Ynys Prydain]].
 
Cyfeirir at Werthefyr gan [[Nennius]] yn yr ''[[Historia Brittonum]]''. Ar ôl blynyddoedd o rhyfela yn erbyn y goresgynwyr gorchmynodd i'w deulu i'w gladdu ar arfordir de [[Lloegr]] i amddiffyn y wlad, ond anwybyddwyd hynny gyda chanlyniadau trychinebus. Ceir yr un hanes, i bob pwrpas, yng ngwaith [[Sieffre o Fynwy]], ond gyda'r gwahaniaeth fod ei lysfam wedi'iyn ei wenwynu. Mae un o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]] yn gwrthddweud Nennius a Sieffre, fodd bynnag, ac yn dweud bod esgyrn y brenin marw wedi'u claddu ym mhrif borthladdoedd yr ynys a bod hynny wedi atal ymosodiadau'r Sacsoniaid am gyfnod.
 
Mae'n eithaf posibl fod yr hanes traddodiadol yn seiliedig ar ffigwr hanesyddol a deyrnasodd yn [[Dyfed|Nyfed]]. Cyfeiria [[Gildas]] ato fel ''Demetarum tyranne Vortipori'' (Vortipori brenin Dyfed). Fe'i coffeir mewn arysgrif gynnar mewn Lladin ac [[Ogam]] o [[Gwarmacwydd|Warmacwydd]], [[Sir Benfro]], a ddaeth yno o [[Castell Dwyran|Gastell Dwyran]] ger [[Hendy-gwyn ar Daf]]. Yn Lladin ceir yr arysgrif ''Memoria Voteporigis Protictoris'' ac yn Ogam ''Votecorigas''.