Gwerthefyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Gwerthefyr''' neu '''Gwerthefyr Fendigaid''' ([[Lladin]]: ''Uortiporius'' neu ''Vortimer'') (fl. [[5ed ganrif]]) oedd fab '''[[Gwrtheyrn''']] brenin y [[Brythoniaid]] yn [[hanes traddodiadol Cymru]]. Dywedir ei fod yn rhyfelwr cadarn a enillodd sawl brwydr yn erbyn y [[Sacsoniaid]] oedd yn ceisio meddianu [[Ynys Prydain]].
 
Cyfeirir at Werthefyr gan [[Nennius]] yn yr ''[[Historia Brittonum]]''. Ar ôl blynyddoedd o rhyfela yn erbyn y goresgynwyr gorchmynodd i'w deulu i'w gladdu ar arfordir de [[Lloegr]] i amddiffyn y wlad, ond anwybyddwyd hynny gyda chanlyniadau trychinebus. Ceir yr un hanes, i bob pwrpas, yng ngwaith [[Sieffre o Fynwy]], ond gyda'r gwahaniaeth fod ei lysfam yn ei wenwynu. Mae un o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]] yn gwrthddweud Nennius a Sieffre, fodd bynnag, ac yn dweud bod esgyrn y brenin marw wedi'u claddu ym mhrif borthladdoedd yr ynys a bod hynny wedi atal ymosodiadau'r Sacsoniaid am gyfnod.