Ystrad Mynach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
typo
B Pellter o Gaerdydd ayb using AWB
Llinell 19:
}}
 
Mae '''Ystrad Mynach''' yn dref ym [[Caerffili (sir)|Mwrdeistref Sirol Caerffili]] yn Ne [[Cymru]]. Saif ar y briffordd [[A472]]. Mae ganddi boblogaeth o tua 13,500 a saif yn Nyffryn Rhymni. Mae [[Caerdydd]] 18.4 [[cilometr|km]] i ffwrdd o Ystrad Mynach ac mae [[Llundain]] yn 217.3 km. Y ddinas agosaf ydy [[Casnewydd]] sy'n 18 km i ffwrdd.

Cyn y [[Chwyldro Diwydiannol]] a dyfodiad y [[glofa|gwaith glo]] roedd yr ardal yn dir amaethyddol gyda nifer o ffermydd.<ref>[http://www.geograph.org.uk/photo/235490] Gwefan Geograph; adalwyd 14/08/2012</ref> saif yng nghymuned [[Gelligaer]].
 
==Tarddiad yr enw==
Ystyr "ystrad" yw llwr"llawr" neu waelod dyffryn; mae'r "ach" ar y diwedd yn awgrymu tir gwlyb neu gors a cheir enghreifftiau gerllaw e.e. [[Llanbradach]] a [[Llancaiach]]. O'r geiriau Ystrad-Man-Ach y daw'r gair, felly, ac nid o'r gair Cymraeg "Mynach".<ref>{{cite book|author=Gelligaer Urban District Council|title=The Gelligaer Story|publisher=Cyngor Dosbarth Gelligaer|year=1959}}</ref> Cyn codi cloddiau pwrpasol yn y 1960au arferai'r dref gael cryn dipyn o [[llifogydd|lifogydd]].
 
==Adeiladau a hanes==
Ceir yn y dref nifer o adeiladau'r cyngor lleol a [[Coleg Ystrad Mynach|Choleg Ystrad Mynach]], coleg a sefydlwyd yn 1959 i hyfforddi ac ail hyfforddi glowyr lleol. Mae tua 12,000 ar gofrestr y coleg erbyn heddiw.
 
Mae Glofa Penallta ger y dref, sef y lofa olaf yn y dyffryn i gau. Ceir yma hefyd [[Gorsaf Reilffordd Ystrad Mynach|Orsaf Rheillffordd]] a agorwyd yn 1890 a cheir hefyd traffont, cerflun i goffau'r etifeddiaeth ddiwydiannol, ysbyty cymunedol, nifer o ysgolion a thafarnau: y Cooper Arms a'r Royal Oak.