Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Corân"

No change in size ,  9 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
B (robot yn ychwanegu: min:Al-Qur'an)
No edit summary
'''Y Coran''' neu'r '''Qur’ān''' ([[Arabeg]]: القرآن '''''al-qur'ān''''', yn llythrennol "yr adroddiad"; sy'n cael ei ysgrifennu sawl ffordd, e.e. ''Qur'an'' neu ''Al-Qur'an'', ''Koran'' yn Saesneg, ''Coran'' yn Gymraeg a Ffrangeg) yw testun sanctaidd canolog [[Islam]]. Cred [[Mwslim]]iaid fod y Coran yn llyfr sy'n rhoi arweiniad dwyfol i'r dynolryw, ac ystyriant fod y testun (yn yr Arabeg wreiddiol) yn cynrychioli datguddiad dwyfol olaf [[Duw]] ([[Allah]]). Yn ôl dysgeidiaeth Islam, cafodd y Coran ei ddatguddio i'r Proffwyd [[Muhammad]] gan yr [[angel]] [[Gabriel]] yn ysbeidiol dros gyfnod o 23 o flynyddoedd.
 
Mae MuslimiaidMwslimiaid yn gweld y Coran fel yr olaf mewn cyfres o negeseuon dwyfol sy'n cychwyn gyda'r rhai a ddatguddiwyd i [[Adda]], a ystyrir yn broffwyd cyntaf Islam, ac a barhawyd gyda'r ''[[Suhuf-i-Ibrahim]]'' (Sgroliau Abraham), y ''Tawrat'' ([[Torah]] neu ran gyntaf yr [[Hen Destament]]), y ''Zabur'' ([[Llyfr y Salmau]]), ac yn olaf yr ''Injil'' (Efengyl, sy'n cyfateb i rannau o'r [[Testament Newydd]]). Er nad yw'r llyfrau hynny yn cael eu cynnwys yn y Coran ei hun, caent eu hadnabod ynddo fel testunau o darddiad dwyfol.
 
Yn ogystal, mae'r Coran yn cyfeirio at sawl digwyddiad a geir yn yr ysgrythurau [[Iddewiaeth|Iddewig]] a [[Cristnogaeth|Christnogol]], gan ailadrodd yr hanesion mewn ffordd sy'n gwahaniaethu rhywfaint o'r hyn a geir yn y testunau hynny, a gan grybwyll yn ogystal, yn llai manwl, ddigwyddiadau eraill ynddynt.
2,093

golygiad