Môr Galilea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (Robot: Yn newid sv:Galileiska sjön yn sv:Gennesaretsjön
newidiadau man using AWB
Llinell 3:
Llyn yn [[Galilea|Ngalilea]], yng ngogledd [[Israel]] yw '''Môr Galilea''', hefyd '''Môr Tiberias''', '''Llyn Tiberias''' a '''Llyn Genasaret''' ([[Hebraeg]]: כִּנֶּרֶת , «''Kinéret''). Hawlir rhan o'r tir ar y lan ogledd-ddwyreiniol gan [[Syria]].
 
Môr Galilea yw [[llyn]] mwyaf Israel. Mae'n 21  km o hyd a 13 o led, gyda dyfnder o 48 medr yn y rhan ddyfnaf ac arwynebedd o 166  km². Saif wyneb y llyn 212 medr islaw lefel y môr. Llifa [[Afon Iorddonen]] i mewn iddo yn y pen gogleddol, ac allan ohono yn y pen deheuol. Y trefi pwysicaf ar ei lan yw [[Tiberías]] ac [[Ein Gev]].
 
Mae gan Fôr Galilea le pwysig yn hanes [[Cristnogaeth]], oherwydd i lawer o'r digwyddiadau yng ngweinidogaeth [[Iesu]] o [[Nasareth]] ddigwydd ar ei lannau. Roedd nifer o'i ddisgyblion, [[Sant Pedr|Pedr]], [[Andreas]], [[Iago fab Sebedeus|Iago]] ac [[Ioan]], yn bysgotwyr ar y llyn. Oherwydd y cysylltiadau hyn, roedd Môr Galilea eisoes yn gyrchfan boblogaidd i [[Pererindod|bererinion]] yng nghyfnod yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]], ac mae wedi parhau felly hyd heddiw.
 
 
{{eginyn Israel}}
 
[[Categori:Hanes Israel]]
[[Categori:Llynnoedd Israel]]