Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (Robot: Yn newid th:ความขัดแย้งอิสราเอล-ปาเลสไตน์ พ.ศ. 2552 yn th:สงครามกาซา |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 4:
Ymgyrch filwrol a ddechreuodd gyda bomio o'r awyr a'r môr ac a ddatblygodd wedyn i fod yn ymosodiad eang ar dir gan fyddin [[Israel]] ar y [[Palesteiniaid]] yn [[Llain Gaza]] oedd '''Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008—2009''', neu'r "Ymgyrch Plwm Bwrw" (''Operation Cast Lead''), fel y'i gelwid yn swyddogol gan lywodraeth Israel. Roedd yr ymgyrch yn rhan o hen ffrwgwd rhwng y ddwy genedl, ffrwgwd a elwir yn [[Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd|Wrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd]].
Yn nyddiau cynnar yr ymosodiad hwn, lladdwyd 4 Israeliad gan rocedi a thuag 9 milwr ar faes y gâd.
<!-- Cadoediad -->
Daeth yr ymosodiad i ben ar 18 Ionawr, 2009 wedi i Israel ac yna Hamas gyhoeddi cadoediad.<ref>
==Cefndir==
Llinell 28:
==Nifer a laddwyd==
Sylwer fod cael ystadegau manwl dan yr amgylchiadau yn anodd os nad amhosibl. Seilir y ffigyrau isod ar adroddiadau gan y BBC, a Le Point (Ffrainc)<ref>
{| class="wikitable centre"
Llinell 129:
Taniwyd y bomiau cyntaf o awyrennau ar y 27ain o Ragfyr, 2008 am 7.30 amser lleol. Dywed llywodraeth Israel mai ymosod ar dargedi cysylltiedig â [[Hamas]] yr oedd, ond yn ystod y deuddydd cyntaf o saethu (yn ôl [[y Cenhedloedd Unedig]]) lladdwyd dros 320 o Balesteiniaid, llawer ohonynt yn sifiliaid, ac anafwyd 1400.
Cyn diwedd y dydd cyntaf, roedd Llu Awyr Israel wedi gollwng 100 tunnell o ffrwydron gydag amcangyfrif o 95% yn cyrraedd eu nod, yn ôl ei Llu Awyr. Dywedodd cynrychiolwyr Israel iddi fomio oddeutu cant o ganolfannau megis gorsafoedd heddlu a charchardai'r Palesteiniaid - a hynny o fewn pum munud.<ref>[http://www.haaretz.com/hasen/spages/1050432.html]; "Most Hamas bases destroyed in 4 minutes" gan Amos Harel.
Yn ôl llywodraeth Israel, y rheswm am yr ymosodiad yw bod Hamas wedi tanio sawl roced dros y ffin ar ei phobol hi, o Lain Gaza.
Llinell 155:
'''5ed o Ionawr'''
Credir fod cyflenwadau bwyd a dŵr glân yn rhedeg allan, a moddion ac angenrheidiau meddygol yn brin neu wedi rhedeg allan gyda'r ychydig ysbytai, yn cynnwys [[Ysbyty Al-Shifa]], prif ysbyty Gaza, yn orlawn. Erbyn y 5ed o Ionawr roedd y cyflenwad trydan wedi darfod yn gyfangwbl bron ac roedd yr ysbytai yn dibynnu ar ''generators'', ond gyda thanwydd yn rhedeg allan hefyd rhybuddwyd fod nifer o'r dros 2,700 a anafwyd mewn perygl o farw. Datgelodd meddyg gwirfoddol o Norwy sy'n gweithio yn Ysbyty Al-Shifa fod profion yn dangos olion [[iwraniwm]] diraddedig yng nghyrff rhai o'r lladdedigion sifil. Ymddengys fod bomiau [[DIME]] (''Dense Inert Metal Explosive''), sy'n achosi cancr a [[liwcemia]] etifeddol yn y bobol hynny sy'n anadlu eu llwch, yn cael eu defnyddio gan yr Israeliaid hefyd. Yn ogystal, cadarnheuwyd gan wefan ''Times Online'' fod yr Israeliaid yn defnyddio sieliau [[ffosfforws gwyn]] yn yr ymosodiadau ar Lain Gaza, yn cynnwys dinas Gaza ei hun, arfau a ddiffinir fel [[arf gemegol|arfau cemegol]].<ref name="presstv.ir">[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=80720§ionid=351020202 "White phosphorus added to Israeli fire" 05.01.2009]</ref>
'''6ed o Ionawr'''
Ar 11eg ddiwrnod y rhyfel, ymosododd colofn o danciau Israelaidd gyda chefnogaeth hofrenyddion arfog ar ardal [[Khan Yunis]].
Yn ôl [[Agence France-Presse|AFP]], aeth y tanciau i mewn gyda'r wawr. Bu ymladd ffyrnig rhwng y milwyr Israeliaid a rhyfelwyr gwrthsefyll Hamas gyda'r brwydro'n drymaf yn nhref [[Abasan al-Kabera]], un o faesdrefi Khan Yunis, i'r dwyrain o'r ddinas. Lladdwyd rhai sifiliaid yn Khan Yunis ei hun wrth i fomiau disgyn.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=80767§ionid=351020202 'Israeli tanks enter Khan Yunis' 05.01.2009] [[Press TV]].</ref> Yn y prynhawn ar yr un diwrnod, adroddwyd fod dwy o ysgolion y [[Cenhedloedd Unedig]] yn Gaza a oedd yn cael eu defnyddio fel llochesi i ffoaduriaid wedi cael eu taro gan fyddin Israel. Lladdwyd tri yn ninas Gaza ond roedd y difrod mwyaf yn ninas [[Jabaliya]] lle lladdwyd o leiaf 40 o sifiliaid yn Ysgol Al Fakhara. Nododd llefarydd ar ran [[UNRWA]] fod baneri'r Cenhedloedd Unedig yn hedfan uwchben yr ysgolion hyn a bod eu lleoliad manwl wedi'i rhoi i'r Israeliaid er mwyn osgoi digwyddiad o'r fath.<ref name="english.aljazeera.net">[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/2009169564177230.html "Scores killed as Gaza school hit" 05.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref>
'''7fed o Ionawr'''
Llinell 168:
'''8fed o Ionawr'''
Yn oriau mân y bore ymosododd rhai dwsinau o danciau ar dde Llain Gaza gan symud i gyfeiriad [[Khan Yunis]]. Bu bomio trwm dros nos gan awerynnau Israel ar [[Rafah]] a thros y llain i gyd: 60 cyrch awyr i gyd, y mwyaf mewn un noson ers dechrau'r rhyfel. Saethwyd 4 roced o dde [[Libanus]] i Israel yn y bore a saethodd Israel 5 roced yn ôl yn nes ymlaen.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81162§ionid=351020202 "Israel fires five rockets into Lebanon" 08.01.2009] [[Press TV]].</ref> Cafwyd cadoediad am 3 awr eto, ond bu tanio ysbeidiol er hynny: cwynodd [[UNRWA]] fod milwyr Israel wedi saethu ar un o'i gonfois cymorth dyngarol yn ystod y "cadoediad", gan ladd un o'i weithwyr, er bod y tryciau yn hedfan baner y CU a bod UNRWA wedi rhoi manylion llawn am daith y confoi i fyddin Israel o flaen llaw. Cyhoeddodd yr asiantaeth nad oedd ganddynt ddewis dan yr amgylchiadau ond rhoi'r gorau ar geisio mynd â chyflenwadau i mewn "oherywdd yr ymosodiadau cynyddol dreisgar gan Israel yn erbyn ei eiddo a'i staff".<ref name="ReferenceA">[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81222§ionid=351020202 "Israel attacks UN convoy amid ceasefire" 08.01.2009] [[Press TV]].</ref><ref name="ReferenceB">[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/2009181482839688.html "UN halts Gaza aid after convoy hit" 08.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref> Hefyd yn ystod y cadoediad 3 awr, cafwyd hyd i gyrff tua hanner cant o bobl, sifiliaid yn bennaf, a laddwyd dros y dyddiau diwethaf a chyhoeddwyd fod 763 o Balesteiniaid wedi'u lladd a 3,100 wedi'u hanafu erbyn hynny.<ref
'''9fed o Ionawr'''
Er gwaethaf pasio penderfyniad brys gan [[Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig]] yn galw am gadoediad<ref name="ReferenceC">[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81378§ionid=3510304 Testun llawn Penderfyniad 1860 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig]</ref>, parhau wnaeth yr ymladd gyda llywodraeth Israel yn cadarnhau yn swyddogl fod trydedd ran yr "Ymgyrch Plwm Bwrw" yn dechrau. Dros nos a thrwy'r bore, wrth i'r CU gwrdd yn [[Efrog Newydd]], cafwyd o leiaf hanner cant o ymosodiadau o'r awyr ar ddinas Gaza, [[Rafah]] a lleoedd eraill. Yn y prynhawn roedd brwydro ffyrnig yn ardal [[Beit Lahiya]] a [[Jabaliya]]. Ers dechrau'r rhyfel, [[Press TV]] a'r sianel Arabeg rhyngwladol [[Al-Alam]] oedd yr unig rai gyda phresenoldeb yn Gaza ei hun (roedd gan [[Al-Jazeera]] a'r [[BBC]] newyddiadurwyr lleol yn adrodd ar eu rhan hefyd). Roedd y newyddiadurwyr rhyngwladol hyn yn defnyddio adeilad yng nghanol dinas [[Gaza]] ac wedi rhoi manylion llawn ei leoliad i'r awdurdodau [[Israel]]aidd a'r [[Cenhedloedd Unedig]] er mwyn diogelwch. Roedd y staff wedi cadw'r golau ymlaen ar lawr uchaf yr adeilad trwy gydol y rhyfel hefyd, er mwyn ei ddiogelu. Er hynny, tua 1700 UTC ar y 9fed o Ionawr 2009 trawyd yr adeilad gan roced Israelaidd gan anafu dau o'r staff a difrodi rhan o'r offer darlledu. Doedd dim bomio arall yn y gymdogaeth a chyhuddodd Press TV yr Israeliaid o ymosod yn fwriadol ar y newyddiadurwyr, yn groes i [[cyfraith ryngwladol|gyfraith ryngwladol]]. Drwgdybiwyd fod yr ymosodiad yn ymgais i rwystro'r unig ffynhonnell lluniau byw o Gaza rhag darlledu ar y diwrnod y cyhoeddodd llywodraeth Israel fod trydedd ran "Ymgyrch Plwm Bwrw" yn cychwyn a'r Israeliaid ar fin ceiso anfon eu milwyr i mewn i'r ddinas ei hun.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81373§ionid=351020202 "Israel targets Press TV station in Gaza" 09.01.2009] Press TV.</ref>
'''10fed o Ionawr'''
Parhaodd ymgyrch bomio Israel dros nos gydag o leiaf 40 o gyrchoedd awyr a saethu gan danciau. Bu ymladd ysbeidiol hefyd yn ystod y cadoediad 3 awr ganol dydd yn enwedig yn [[Jabaliya]], [[Beit Lahiya]] ac ardal Zeitoun ar ymyl dinas Gaza. Ganol y pnawn gollyngodd awyrennau'r Israeliaid filoedd o bamffledi ar ddinas Gaza yn rhybuddio pobl i aros yn eu cartrefi a pheidio gwneud unrhyw beth i gynorthwyo milwyr Palesteinaidd. Gollyngwyd nifer o fomiau [[ffosfforws gwyn]] ar gyrion y ddinas ac ymledodd cymylau tocsig mawr dros y maesdrefi gan beryglu iechyd y trigolion. Yn Efrog Newydd roedd [[Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig]] ([[UNHRC]]) yn cwrdd i drafod cyhuddiad gan Navi Pillay, Uwch Gomisiynydd dros Hawliau Dynol y CU, fod yr [[IDF]] ac Israel yn euog o gyflawni [[trosedd rhyfel]] trwy ladd tua 40 o sifiliaid, yn ferched a phlant, yn fwriadol mewn tŷ yn Zeitoun ar ôl gorchymyn iddynt fynd yno; gadawyd y goroeswyr gyda chyrff y meirw am bedwar diwrnod heb fwyd na diod.<ref name="unhchr.ch">[http://www.unhchr.ch/huricane/huricane.nsf/view01/8E8BAE03D7CDF9E8C1257539006C5F6B?opendocument Y cyhuddiadau o drosedd rhyfel yn erbyn Israel] Gwefan [[UNHRC]].</ref> Gyda'r nos dechreuodd ymladd ffyrnig ar gyrion dinas Gaza a mannau eraill.
'''11eg o Ionawr'''
Llinell 196:
'''15fed o Ionawr'''
Cafwyd yr hyn a ddisgrifwyd fel "y diwrnod mwyaf gwaedlyd hyd yn hyn" ar y 15fed gyda nifer o ymosodiadau am tua 18 awr ar draws Llain Gaza o gyffiniau [[Rafah]] yn y de i ddinas [[Gaza]] yn y gogledd. Yn ninas Gaza cyrhaeddodd tanciau Israel o fewn 1.5
'''16eg o Ionawr'''
Llinell 216:
[[Delwedd:Gaza children horrified.png|250px|bawd|Plant dychrynedig yn [[Ysbyty Al-Shifa]] yn ystod yr ymosodiad ar ddinas Gaza]]
[[Delwedd:Cast Lead Mosque.jpg|250px|bawd|Rhan o'r dinistr: adfeilion mosg yn ninas Gaza]]
Yn ystod y rhyfel credid fod cyflenwadau bwyd a dŵr glân yn dod i ben, a moddion ac angenrheidiau meddygol yn brin neu wedi darfod gyda'r ychydig ysbytai, yn cynnwys [[Ysbyty Al-Shifa]], prif ysbyty Gaza, yn orlawn. Erbyn y 5ed o Ionawr roedd y cyflenwad trydan wedi darfod yn gyfangwbl bron ac roedd yr ysbytai yn dibynnu ar ''generators'', ond gyda thanwydd yn affwysol o brin hefyd rhybuddwyd fod nifer o'r 2,700 a anafwyd mewn perygl o farw.<ref
Erbyn y 14eg o Ionawr, roedd tua 300 o blant wedi'u lladd a thros 1,500 wedi'u hanafu, nododd [[UNICEF]]. Mewn datganiad arbennig i'r wasg, galwodd UNICEF ar i'r ddwy ochr i wneud popeth yn eu gallu i amddiffyn y plant. "Mae hyn yn drasig, mae hyn yn annerbyniol," nododd y datganiad. Yn ôl UNICEF roedd y sefyllfa yn Gaza yn eithriadol oherwydd doedd yna "nunlle i ddianc, dim noddfa i'w chael." Nodwyd hefyd: "Rhaid rhoi blaenoriaeth absoliwt i amddiffyn y plant... sydd wedi colli eu cartrefi, sy'n methu cael dŵr, trydan a meddyginiaeth; ond y tu draw i'r creithiau corfforol arswydus fodd bynnag, y mae anafiadau [[seicoleg]]ol dyfnach y plant hyn," a fydd yn cymryd amser maith i'w gwella.<ref>[http://english.wafa.ps/?action=detail&id=12525 "UNICEF: Measures Must Be Taken to Protect Children" 14.01.2009] [[Wafa]].</ref>
Llinell 225:
Mae [[Israel]] wedi cael ei beirniadu gan sawl grŵp hawliau dynol, asiantaethau dyngarol ac eraill am ddefnyddio arfau anghonfensiynol yn erbyn sifiliaid Gaza. Mae hyn yn cynnwys y defnydd o fomiau [[ffosfforws gwyn]] ar ardaloedd dinesig.<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/200911114222894141.html Fideo: Bomiau ffosfforws gwyn yn ffrwydro dros Gaza] [[Al Jazeera]].</ref> Yn ôl y meddygon yn [[Ysbyty Al-Shifa]] yn ninas Gaza, roedd nifer uchel o'r sifiliaid anafiedig yn dioddef o anafiadau llosg dwfn. Mae dafnau o'r cemegyn ffosfforws gwyn yn llosgi trwy'r cnawd i'r asgwrn. Yn ôl llygad-dystion sifilaidd, defnyddiwyd bomiau ffosfforws gwyn dros ddinas Gaza a [[Jabaliya]] yn ail wythnos y rhyfel. Roedd y bomiau'n tasgu cannoedd o ddafnau llosg dros ardaloedd lle mae nifer o bobl yn byw yn agos iawn i'w gilydd yn Jabaliya. Roedd y mwg gwyn trwchus yn drewi'n ofnadwy ac yn tagu pobl a'i gwneud yn anodd i bobl anadlu. Adroddodd llygad-dyst arall ei bod hi wedi gweld "fflach llachar ac wedyn syrthiodd nifer o wreichionau dros y gymdogaeth gan lanio o gwmpas pobl ac ar eu tai." Dywedodd bod matresi yn ei thŷ hi wedi mynd ar dân o ganlyniad i hyn. Mae'r grŵp Americanaidd [[Human Rights Watch]] yn dweud er nad yw defnyddio ffosforws gwyn ar faes y gad yn anghyfreithlon ynddo ei hun, mae ei ddefnyddio yn fwriadol yn erbyn ardaloedd llawn o sifiliaid yn torri [[cyfraith ryngwladol]].<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/20091111392884765.html "'Phosphorus' fears over Gaza wounds" 11.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref>
Datgelodd meddyg gwirfoddol o Norwy sy'n gweithio yn Ysbyty Al-Shifa fod profion yn dangos olion [[iwraniwm]] (''depleted uranium'') yng nghyrff rhai o'r lladdedigion sifil. Ymddengys fod bomiau [[DIME]] (''Dense Inert Metal Explosive''), sy'n achosi cancr a liwcemia etifeddol ym mobl sy'n anadlu eu llwch, yn cael eu defnyddio gan yr Israeliaid hefyd.<ref
[[Delwedd:Unrwaschool.jpg|250px|bawd|John Ging yn siarad a'r wasg o flaen yr ysgol a fomiwyd gan yr [[IDF]] yn [[Gaza]].]]
Ar y 6ed o Ionawr adroddwyd fod dwy o ysgolion y [[Cenhedloedd Unedig]] yn Gaza a oedd yn cael eu defnyddio fel llochesi i ffoaduriaid wedi cael eu taro gan fyddin Israel. Lladdwyd tri yn ninas Gaza ond roedd y difrod mwyaf yn ninas [[Jabaliya]] lle lladdwyd o leiaf 40 o sifiliaid yn Ysgol Al Fakhara. Nododd llefarydd ar ran [[UNRWA]] fod baneri'r Cenhedloedd Unedig yn hedfan uwchben yr ysgolion hyn a bod eu lleoliad manwl wedi'i rhoi i'r Israeliaid er mwyn osgoi digwyddiad o'r fath.<ref
Ar y 14eg o Ionawr, dywedodd [[Miguel d'Escoto Brockmann]], Arlywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, fod ymosodiad Israel ar Gaza "yn [[hil-laddiad]]."<ref>[http://english.aljazeera.net/news/americas/2009/01/200911321467988347.html "Israel accused of Gaza 'genocide'" 14.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref> Yn ei araith i ail-agor 10fed Sesiwn Arbennig y Cynulliad Cyffredinol ar y 15fed o Ionawr, dywedodd: "''If this onslaught in Gaza is indeed a war, it is a war against a helpless, defenseless, imprisoned population''" a "''The violations of international law inherent in the Gaza assault have been well documented: [[Cosb gyfannol|Collective punishment]]. Disproportionate military force. Attacks on civilian targets, including homes, mosques, universities, schools.''" Ychwanegodd, "''the relentless onslaught continues in Gaza. Gaza is ablaze. It has been turned into a real burning hell.''" Galwodd Israel yn "''a State in contempt of [[cyfraith ryngwladol|international law]] and the United Nations''" ac am ddiwedd buaned â phosibl i'r "gyflafan" "''slaughter''").<ref>[http://www.un.org/ga/president/63/statements/onpalestine150109.shtml Datganiad Arlywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig: "To the 32nd Plenary Meeting of the 10th Emergency Special Session on the Illegal Israeli Actions in Occupied East Jerusalem and the Rest of the Occupied Palestinian Territory" 15.01.2009] Gwefan [[Y Cenhedloedd Unedig]].</ref>
Cynhaliwyd Sesiwn Arbennig o [[Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig]] (UNHRC) i ystyried tystiolaeth fod yr [[IDF]] ac Israel yn euog o gyflawni [[trosedd rhyfel]] trwy ladd tua 40 o sifiliaid, yn ferched a phlant, yn fwriadol mewn tŷ yn Zeitoun ar ôl gorchymyn iddynt fynd yno; gadawyd y goroeswyr gyda chyrff y meirw am bedwar diwrnod heb fwyd na diod.<ref
Daeth mwy o dystiolaeth i'r amlwg yn ystod y cadoediad. Datgelodd un tad Palesteinaidd fod milwr Israelaidd wedi saethu dwy o'i ferched ifainc mewn gwaed oer ar ôl iddo ef a'i deulu gael eu gorchymyn i adael eu cartref. Daethant allan yn dal baneri gwyn yn uchel a'i dwylo i fynny. Roedd tanc Israelaidd deg metr i ffwrdd. Saethodd un o'r milwyr y ddwy ferch yn farw gan daro un ohonynt 12 gwaith yn ei brest. Dinistriwyd y cartref wedyn gan fomiau o'r tanc.<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/2009120055582206.html Fideo: "Gaza's desruction revealed" 20.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref> Ar yr un diwrnod ag y datgelwyd hyn, ymwelodd [[Ban Ki-moon]], Ysgrifenydd Cyffredinol y CU, â dinas Gaza a'r gogledd ar yr 20fed o Ionawr. Dywedodd fod yr hyn a welodd yn "ddychrynllyd" a galwodd am ymchwiliad llawn i'r bomio o wersylloedd UNRWA gan yr [[IDF]], a oedd yn "ymosodiad wrthun a hollol annerbyniol ar y CU" gan ychwanegu y byddai'r rhai fu'n gyfrifol yn "atebol" am eu gweithrediadau.<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/200912013138315261.html "Ban demands probe into Gaza attacks" 20.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref>
Llinell 263:
Yn fuan ar ôl i'r ymladd ddechrau, aeth [[Nicolas Sarkozy]], Arlywydd Ffrainc, i'r Dwyrain Canol i siarad â rhai o arweinwyr yr ardal er mwyn ceisio trefnu cadoediad. Cafodd drafodaethau yn [[Jeriwsalem]], a [[Damascus]] ac yna aeth i'r Aifft i drafod y sefyllfa gyda [[Hosni Mubarak]], Arlywydd yr Aifft. Ar y 7fed o Ionawr cyhoeddwyd fod Israel ac [[Awdurdod Cenedlaethol Palesteina]] wedi cytuno ar egwyddorion cadoediad a bod Israel am roi ffenestr o 3 awr o gadoediad bob dydd er mwyn i gymorth dyngarol allu mynd i mewn i Lain Gaza: gweithredwyd hyn o 1100 hyd 1400 UTC ar y 7fed. Ond doedd dim sôn am [[Hamas]] yn y cytundeb ac roedd y camrau ymarferol tuag at gael cadoediad parhaol eto i'w gweithio allan.<ref>[http://www.presstv.ir/Detail.aspx?id=81017§ionid=351020202 "France 'delighted' by reaction to Gaza truce plan" 07.01.2009] [[Press TV]].</ref> Ar yr un diwrnod â chytuno a chadoediad dyddiol dros dro, fodd bynnag, yn ôl AFP cytunodd Cabinet Israel ar ddiwedd y prynhawn i ehangu'r ymosodiad ar Gaza gan sôn am "drydedd ran" yr ymladd a fyddai'n cynnwys anfon rhagor o filwyr Israelaidd yn ddyfnach i mewn i Gaza.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81097§ionid=351020202 "Israel OKs Gaza ground assault expansion" 07.01.2009] [[Press TV]] yn dyfynnu [[Agence France-Presse|AFP]].</ref>
Yn oriau mân y bore ar y 9fed o Ionawr 2009 pasiodd [[Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig]] benderfyniad brys yn galw am gadoediad. Roedd Penderfyniad 1860 yn llai grymus o lawer na'r drafftiau cynharaf a roddwyd ger bron y Cyngor gan [[Libya]] ar ran y [[Cynghrair Arabaidd]]. Ataliodd yr [[Unol Daleithiau]], a gynrychiolwyd gan [[Condoleeza Rice]], ei phleidlais.<ref
Ar drydydd ffrynt diplomyddol, mae cynrychiolwyr llywodraethau [[Iran]], [[Indonesia]] (y wlad Fwslwmaidd fwyaf yn y byd o ran poblogaeth) a [[Syria]] wedi cynnal trafodaethau â llywodraethau yn yr ardal. Mae [[Qatar]] yn gefnogol i'r symudiad hyn ac mae [[Twrci]] mewn cysylltiad hefyd. Ar gais Qatar, cynhaliwyd Cyfarfod Arbennig o'r [[Cynghrair Arabaidd]] - gyda rhai gwledydd yn absennol, yn enwedig [[yr Aifft]] a [[Saudi Arabia]] - yn ninas [[Doha]] ar y 16eg o Ionawr. Siaradodd [[Khaled Meshaal]], arweinydd Hamas. Roedd arlywyddion [[Twrci]] ac [[Iran]] yn bresennol hefyd. Cyhoeddodd y gwledydd yn y Cyfarfod fod Israel "yn gyfrifol am droseddau" a'i harweinwyr "yn agored i ateb am droseddau rhyfel".<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/2009116181426127417.html "Israel 'set to halt war on Gaza'" 16.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref>
Llinell 279:
* {{eicon ar}} {{eicon en}} [http://www.pchrgaza.org/ Palestinian Center for Human Rights] Gwefan mudiad annibynnol sy'n gweithio dros hawliau dynol pobl Gaza, gydag adroddiadau am effaith yr ymladd [http://www.pchrgaza.org/files/PressR/English/2008/photos_de-08.html a nifer o luniau] (RHYBUDD: Mae hyn yn cynnwys lluniau o bobl wedi'u lladd neu'u hanafu).
* {{eicon en}} [http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81378§ionid=3510304 Testun llawn Penderfyniad 1860 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig] a basiwyd ar 9 Ionawr 2009.
* [http://www.presstv.ir/gaza/news.aspx "Gaza under fire", detholiad o luniau]
* [http://www.youtube.com/watch?v=5TbRXRdStWg&feature=related Fideo o luniau sy'n dangos dioddefiant y plant] (RHYBUDD: Mae hyn yn cynnwys lluniau o blant wedi'u lladd neu'u hanafu).
[[Categori:2008]]
Llinell 291 ⟶ 290:
{{Link FA|fa}}
{{Link FA|hr}}
[[ar:الهجوم على قطاع غزة]]
[[bg:Война в Газа (2008-2009)]]
|