Oes yr Haearn yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Nodyn:Cyfnodau cynhanes Cymru
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
{{Nodyn:Cyfnodau cynhanes Cymru}}
Dechreuodd '''Oes yr Haearn yng Nghymru''' oddeutu 650 CC., dyddiad y celfi [[haearn]] cyntaf i'w darganfod yng Nghymru, yn [[Llyn Fawr]] ym mhen draw [[Cwm Rhondda]], lle roedd nifer o eitemau wedi ei talu i'r llyn fel offrymau i'r duwiau. [[Efydd]] oedd y rhan fwyaf, ond roedd tri o haearn, cleddyf, pen gwaywffon a chryman. Credir fod y cleddyf wedi ei fewnforio, ond mae'r cryman o wneuthuriad lleol, ac yn efelychiad o fath lleol wedi ei wneud o efydd.
[[Delwedd:Tre'r Ceiri.JPG|220px|bawd|chwith|Un o'r mynedfeydd i fryngaer Tre'r Ceiri, Gwynedd]]
Llinell 10:
Yn draddodiadol, cysylltir diwylliant La Tène a'r [[Y Celtiaid|Celtiaid]], a'r farn gyffredinol hyd yn ddiweddar oedd fod ymddangosiad y diwylliant yma yn dangos mewnlifiad mawr o bobl newydd oedd yn siarad iaith Geltaidd, ac a ddisodlodd y boblogaeth oedd yno ynghynt. Y farn gyffredinol erbyn hyn yw na ddigwyddodd hyn ar raddfa fawr, ac mai'r diwylliant a newidiodd yn hytrach na'r bobl.
 
Diweddodd y cyfnod cynhanesyddol pan gyrgaeddodd y Rhufeiniaid, a ddechreuodd eu hymgyrchoedd yn erbyn y llwythau Cymreig gydag ymosodiad ar y [[Deceangli]] yn y gogledd-ddwyrain yn [[48]] OC.. Bu ymladd chwerw yn erbyn y [[Silwriaid]] a'r [[Ordoficiaid]], ond erbyn tua [[79]] roedd y goncwest wedi ei chwblhau. Mae adroddiad yr hanesydd Rhufeinig [[Tacitus]] yn rhoi tipyn o wybodaeth am Gymru yn y cyfnod yma, er enghraifft fod Ynys Môn i bob golwg yn fan arbennig i'r [[Derwydd|Derwyddon]]on. Efallai fod effaith y Rhufeiniaid ar y brodorion yn amrywio o un rhan o Gymru i'r llall; er enghraifft mae tystiolaeth fod rhai bryngeiri, megis Tre'r Ceiri, yn parhau i gael eu defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig.
 
==Safleoedd Oes yr Haearn yng Nghymru==
*Llynnoedd [[Llyn Cerrig Bach]] ar [[Ynys Môn]] neu [[Llyn Fawr]] ym mhen draw [[Cwm Rhondda]]: dau lyn ble cafwyd hyd i lawer o drysorau.
*[[Rhestr o fryngaerau Cymru|Bryngaearau]] megis [[Pen Dinas]] ger [[Aberystwyth]] a [[Tre'r Ceiri|Thre'r Ceiri]] ar benrhyn [[Llŷn]].
*Olion cytiau a phentrefi megis [[Din Lligwy]] ym [[Môn]].
*[[Siambr gladdu|Arferion claddu]]: [[Bryn Celli Ddu]] a [[cromlech|chromlechi]] megis [[Tinkinswood]] ym [[Bro Morgannwg|Mro Morgannwg]].
*[[Cylchoedd cerrig]] e.e. [[Côr y Cewri]] neu [[Bryn Cader Faner]].
 
== Llyfryddiaeth ==
*I.Ll. Foster & Glyn Daniel (gol.) (1965) ''Prehistoric and early Wales'' (Routledge and Kegan Paul)
* Frances Lynch (1970) ''Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest'' (Cymdeithas Hynafiaethwtr Môn)
* Frances Lynch, Stephen Aldhouse-Green a Jeffrey L. Davies (2000) ''Prehistoric Wales'' (Sutton Publishing) ISBN 0-7509-2165-X
 
 
{{Cynhanes Cymru}}