Llyn Cerrig Bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Llyfryddiaeth: interwiki
newidiadau man using AWB
Llinell 5:
Gwnaed y darganfyddiad pan oedd y tir yn gael ei glirio i adeiladu maes awyr i'r [[Llu Awyr Brenhinol]] ger [[Y Fali]]. Roedd [[mawn]] yn cael eu gasglu er mwyn ei daenu dros y tir tywodlyd, a chafwyd hyd i'r celfi wrth gasglu mawn o Gors yr Ynys ar lan ddeheuol Llyn Cerrig Bach. Y peth cyntaf i'w ddarganfod oedd cadwyn haearn, wedi ei bwriadu ar gyfer caethweision. Nid oedd neb yn sylweddoli fod y gadwyn yn hen, ac fe'i defnyddiwyd i dynnu lorïau o'r mwd gyda thractor. Er ei bod tua 2,000 o flynyddoedd oed, gallodd wneud y gwaith yma heb broblemau.
 
Pan sylweddolwyd oed y gadwyn, chwiliwyd am gelfi eraill, a chafwyd hyd i nifer fawr ohonynt. Roedd y rhan fwyaf yn waith [[haearn]] ond roedd rhai celfi [[efydd]] hefyd. Cafwyd hyd i gyfanswm o 181 o gelfi. Maent yn cynnwys [[cleddyf|cleddyfau]]au, pennau [[gwaywffon]], [[tarian|tariannau]]nau, darnau o gerbydau a harnes ceffylau, cadwyn arall ar gyfer caethion a gwahanol gelfi. Yr oedd rhai barau haearn, oedd efallai yn cael eu defnyddio fel arian.
 
Roedd llawer o'r eitemau hyn wedi eu torri'n fwriadol, a chredir eu bod wedi eu rhoi yn y llyn fel offrymau. Gwaith lleol oedd rhai o'r celfi, roedd rhai wedi eu gwneud yn [[Iwerddon]], ond roedd llawer ohonynt wedi eu gwneud yn ne [[Lloegr]]. Efallai fod Llyn Cerrig Bach yn safle mor sanctaidd ac enwog fel bod llwythau pellenig yn gyrru offrymau. Ar y llaw arall, efallai fod y bobl leol wedi eu cael y celfi hyn trwy fasnach neu wedi eu cipio fel ysbail rhyfel. Mae'r eitemau yn dyddio o'r cyfnod rhwng yn ail ganrif cyn Crist hyd o gwmpas dyfodiad y [[Ymerodraeth Rhufain|Rhufeiniaid]].
 
Pan ymosododd byddin Rufeinig dan [[Gaius Suetonius Paulinus]] ar Ynys Môn yn [[60]] neu [[61]] O.C., dywedodd yr hanesydd Rhufeinig [[Tacitus]] fod yr ynys yn ganolfan bwysig i'r [[Derwydd|Derwyddon]]on. Efallai fod rhai o'r offrymau yn ymateb i fygythiad y Rhufeiniaid. Nid oes arwydd o ddylanwad Rhufeinig uniongyrchol ar yr un o'r eitemau. Gellir gweld y rhan fwyaf ohonynt yn [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]].
 
==Llyfryddiaeth==
* [[Cyril Fox]] (1945) '' A find of the early Iron Age from Llyn Cerrig Bach, Anglesey: interim report'' (Amgueddfa Genedlaethol Cymru)
* Frances Lynch (1970) ''Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest'' (Cymdeithas Hynafiaethwy Môn)
 
 
[[Categori:Archaeoleg Cymru]]