Teml Dendera: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: no:Dendera tempelkompleks
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
'''Teml Dendera''' ([[Hen Eiffteg]]: ''Iunet'' neu ''Tantere''; [[Groeg]] ''Dendera''), a leolir tua 2.5  km i'r de o dref [[Dendera]], yng nghanolbarth [[Yr Aifft]], yw un o'r enghreifftiau gorau o deml Eifftaidd a'i hadeiladau atodol yn yr Aifft. Fe'i lleolir yn yr [[Aifft Uchaf]], i'r de o [[Abydos]] ac i'r gogledd o [[Thebes (Yr Aifft)|Thebes]] a [[Luxor]], ar lan orllewinol [[Afon Nîl]]. Roedd yn ganolfan fawr i gwlt y [[duwies|dduwies]] [[Hathor]].
 
[[Image:Dendera Temple of Hathor.jpg|thumb|250px|Teml Hathor, Dendera]]Mae'r safle yn cynnwys 40,000 medr sgwar o dir a amgylchynnir gan fur o friciau mwd sych. Ymddengys mai'r brenin [[Pepi I]] (c. 2250 CC) a gododd un o'r temlau cyntaf ar y safel a cheir tystiolaeth hefyd am adeiladu arno yn ystod [[Deunawfed Frenhinllin yr Aifft]] (c. 1500 CC). Ond yr adeilad hynaf sy'n dal i sefyll yno heddiw yw'r ''Mammisi'' a godwyd gan y brenin [[Nectanebo II]] – yr olaf o'r [[pharaoh]]s brodorol ([[360 CC]]-[[343 CC]]). Mae'r safle yn cynnwys,
* Teml [[Hathor]] (y prif deml),
* Teml Genedigaeth [[Isis]],
* Y Llyn Sanctaidd,
* Sanatoriwm,
* ''Mammisi'' Nectanebo II,
* Basilica [[Eglwys Goptaidd|Goptaidd]],
* ''Mammisi'' Rhufeinig
* Pyrth [[Domitian]] & [[Trajan]]
 
 
[[Categori:Temlau|Dendera]]