Mur Hadrian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: hy:Հադրիանոսի պատ
newidiadau man using AWB
Llinell 3:
Mae '''Mur Hadrian''' ([[Saesneg]]: ''Hadrian's Wall''; [[Lladin]]: ''Vallum Hadriani'') yn fur amddiffynnol a adeiladwyd gan yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn yr hyn sy'n awr yn [[Lloegr]]. Am ran helaeth o'r cyfnod Rhufeinig ym Mhrydain, Mur Hadrian oedd ffin ogleddol y dalaith Rufeinig, er bod mur arall, [[Mur Antoninus]], ymhellach i'r gogledd yn [[yr Alban]].
 
Roedd y mur tua 80 [[milltir]] Rufeinig (117  km) o hyd, yn ymestyn o [[Segedunum]] yn [[Wallsend]] ar [[Afon Tyne, Lloegr|Afon Tyne]] yn y dwyrain i'r [[Solway Firth]] yn y gorllewin. Mae'r mur i gyd yn [[Lloegr]]; mae tua 15  km i'r de o'r ffin gyda'r Alban yn y gorllewin, a 110  km o'r ffin yn y dwyrain. I'r dwyrain o [[Afon Irthing]] mae wedi ei hadeiladu o gerrig, 5 - 6 medr o uchder a 3 medr o drwch. I'r gorllewin o'r afon roedd y mur wedi ei adeiladu o dywyrch, 3.5 medr o uchder a 6 medr o drwch.
 
Adeiladwyd y mur yn dilyn ymweliad yr Ymerawdwr Rhufeinig [[Hadrian]] â Phrydain yn [[122]] OC. Credir i'r gwaith adeiladu gymeryd 8 mlynedd, gyda milwyr o bob un o'r tair [[Lleng Rufeinig|lleng]] oedd ym Mhrydain ar y pryd yn cynorthwyo. Roedd y mur yn rhan o weithiau amddiffynnol ehangach a oedd yn cynnwys ffosydd cyfochrog.