Banc y Ddafad Ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
refs
newidiadau man using AWB
Llinell 2:
'''Banc y Ddafad Ddu''' oedd enw poblogaidd '''Banc [[Aberystwyth]] a [[Tregaron|Thregaron]] Evans, Jones, Davies a'u cwmni''' (neu yn saesneg: '''Aberystwyth & Tregaron Bank'''). Fe'i sefydlwyd gan griw o [[Porthmona|borthmyn]] lleol [[Ceredigion]] ar ddiwedd y [[18fed ganrif]]. Mae'n enghraifft dda o'r [[Banciau Cymru|banciau Cymreig]] lleol a fodolai ar ddiwedd y [[18fed ganrif]] a dechrau'r [[19eg ganrif|19eg]].
 
Roedd pobl yn ei alw yn Fanc y Ddafad Ddu oherwydd fod yr arian papur yn dangos llun o [[Dafad|ddafad]] ddu arno. Roedd y maint a nifer y defaid a bortreadid yn dibynnu ar werth yr arian papur; dim ond oen ddu oedd ar y papurau chweugain (deg [[swllt]]) er enghraifft, tra bod un ddafad ar y papur punt a dwy ddafad fawr ar y papurau dwy bunt. Mae nifer enghreifftiau o'r nodau hyn ar gael rhwng 1810 ac 1814, y flwyddyn yr aeth y banc yn fethdalwr a thalu difidend o chwe swllt ag wyth geiniog yn y bunt. <ref>{{Dyf gwe |url=http://www.casglwr.org/yrarchif/3unddafadddu.php |teitl=UN DDAFAD DDU - UN BUNT |awdur=Gwyneth Lewis |dyddiad=Nadolig 1977 |gwaith= |cyhoeddwr=Cymdeithas Bob Owen |dyddiadcyrchiad=4 Mai 2012 |iaith=}}</ref>
 
==Rhai o'r banciau eraill yng Nghymru==