Brwydr Coed Llathen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfesurynnau
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
{{Nodyn:Brwydrau'r Normaniaid yng Nghymru}}
{{coord|51.88853|N|4.06612|W|name=Coed Llathen|region:GB_source:GoogleEarth_type:landmark|display=inline}}
Mae '''Brwydr Coed Llathen''' (neu '''Frwydr Cymerau''') yn cael ei chyfrif yn un o frwydrau pwysicaf hanes Cymru: brwydr ydoedd a gynhaliwyd yn 1257 pan laddodd byddin [[Llywelyn ap Gruffudd]] dros 3,000 o Saeson yng Nyffryn Tywi. Roedd y frwydr mewn dwy ran: y cyntaf yng [[Coed Llathen|Nghoed Llathen]] a'r ail yng [[Cymerau|Nghymerau]] ger [[Llandeilo]].
 
==Y Cefndir==
Am flynyddoedd cyn y frwydr roedd Llywelyn wedi bod yn brysur yn adfeddiannu tiroedd a gollwyd a derbyn gwrogaeth arglwyddi'r [[Deheubarth]] gan gynnwys [[Maredudd ap Rhys]] a [[Maredudd ap Owain]]. Fel tâl am eu teyrngarwch iddo, cyflwynodd diroedd iddyn nhw yn anrheg - tiroedd roedd wedi'u cymeryd oddi wrth [[Rhys Fychan]] a oedd yn deyrngar i [[Harri III, brenin Lloegr|Harri III, Brenin Lloegr]]. Roedd ei fab, sef y Tywysog [[Edward I of England|Edward]] wedi sylweddoli fod Llywelyn wedi cryfhau dros y blynyddoedd a chasglodd fyddin fawr er mwyn ei wrthwynebu.<ref>[http://www.a40infobahn.co.uk/History/Bauzan.htm] a40infobahn.co.uk </ref> Roedd ganddo gefnogaeth llawer o uchelwyr gan gynnwys: Stephen Bauzan, Arglwydd Breigan a Llansannor a Nicholas FitzMartin, Arglwydd Cemaes, gyda'r rhan fwyaf o'i filwyr o Loegr a rhai o [[Gasgwyn]].<ref> Marc Morris '''A Great and Terrible King, Edward I and the Forging of Britain''', tudalen 32</ref>
 
==Paratoi am ryfel==
Erbyn 29 Mai 1257 roedd [[llynges]] Saesnig wedi glanio yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]] a'r fyddin a gludwyd yno wedi ymgasglu. Y dydd Iau canlynol, dechreuodd y fyddin fartsio i gyfeiriad [[Llandeilo]], drwy ddyffryn Tywi gan anrheithio a lladd popeth a ddeuent ar ei draws - cymunedau cyfan. Drwy wneud hyn, gobeithient y byddai [[Castell Dinefwr]] yn ildio ar unwaith i atal y fath gyflafan. <ref> [http://archiver.rootsweb.ancestry.com/th/read/CARMARTHENSHIRE/2002-02/1013687630] Ancestry.com</ref>
 
==Y Frwydr==
 
===Y diwrnod cyntaf===
Ar y nos Sadwrn canlynol gwersyllodd y Saeson ger [[Llandeilo Fawr]]. Yn ddiarwybod iddynt, roedd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain wedi eu dilyn gyda rhan o'u byddin gan ymosod-a-chuddio o'r goedwig gerllaw. Roedd bwau hirion y Cymry yn cael effaith seicolegol ar y saeson ynghyd â synau enbyd. Y person oedd wedi arwain y fyddin saesnig drwy Gymru oedd Rhys Fychan a phenderfynodd [[Stephen Bauzan]] ddanfon Rhys i drafod heddwch gydag arweinwyr y fyddin Gymreig a oedd yng Ngastell Dinefwr. Ni wyddom yn union beth a ddigwyddodd iddo; naill ai newidiodd ei got gan ochri gyda'r Cymry neu cafodd ei ddal. Ond yn sicr fe gollodd y Saeson yr unig berson a oedd yn adnabod yr ardal, ac roeddent ar goll hebddo. <ref>[http://www.welshbattlefields.org.uk/eng/?page_id=18] Welsh Battlefields</ref>
 
===Yr ail ddiwrnod===
====Brwydr Coed Llathen====
Oherwydd nad oedd ganddynt wybodaeth ddaearyddol, penderfynodd y saeson ei heglu hi'n ôl i Gaerfyrddin. Rhwng torriad gwawr a chanol dydd roedd bwau hirion a phicelli'r Cymry wrthi'n ddiddiwedd. Tua chanol dydd roedd brwydro person i berson a chipiodd y Cymry wageni cyflenwadau bwyd ac arfau'r Saeson yng Nghoed Llathen. <ref> [http://www.welshbattlefields.org.uk/eng/?page_id=18] </ref>
 
====Brwydr Cymerau====
Roedd ysbryd y fyddin Saesnig yn rhacs; roeddent wedi cael eu gwanhau gan dachtegau'r fyddin Gymreig hyd syrffed. Ymgasglodd y cyfan ynghŷd i'r gorllewin - a martsio i gyfeiriad Cymerau. Roedd y tir yma'n berffaith i'r Cymry: ceunentydd a thirwedd garw i'w harafu a chorsdir gwlyb a fyddai'n gwbwl anobeithiol i'r marchogion Saesnig. Rhagodwyd y Saeson; ymosodwyd gyda holl rym y fyddin Gymreig a lladdwyd Stephen Bauzan ac hyd at 3,000 o'i filwyr. Dihangodd gweddill y fyddin Saesnig fel ieir am eu bywydau. <ref name="bbc.co.uk">[http://www.bbc.co.uk/wales/southwest/sites/local_history/pages/cadfan.shtml 'Bloody Battlefields of Cadfan', BBC]</ref>
 
Gwyddwn fod Llywelyn ei hun wedi arwain y frwydr.<ref>[http://www. name="bbc.co.uk"/wales/southwest/sites/local_history/pages/cadfan.shtml 'Bloody Battlefields of Cadfan', BBC] </ref>
 
==Wedi'r storm...==
Yn dilyn buddugoliaeth fawr y Cymry ym Mrwydr Coed Llathen, aethent ymlaen i ymosod ar Gastell [[Talacharn]], [[Llansteffan]] ac [[Arberth]]. Roedd Rhys Fychan erbyn hyn yn deyrngar i Lywelyn, a rhoddwyd ei diroedd yn ôl iddo am ei drafferth. Gwylltiodd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain gan newid eu lliwiau. Roedd Harri, brenin Lloegr, wedi dychryn gyda'r golled a gafodd ei fyddin a phenderfynodd y byddai'n ymosod eto'r flwyddyn honno ar Gymru. Ond methiant fu'r ymosodiad hwn hefyd: daliwyd y llongau cyflenwi bwyd y saeson (a oedd yn dod o iwerddon) a gorfodwyd hwy i droi yn ôl. Yr un dachteg unwaith eto; 'doedd y Saeson heb ddysgu o'u cangymeriadau ym Mrwydr Coed Llathen! Ac unwaith eto, defnyddiai'r Cymry eu bwau hirion a'u tachteg taro-a-ffoi yn llwyddiannus.
 
Erbyn 1258 roedd y [[Berfeddwlad]] a'r Gymru frodorol (''Pura Wallia'') yn ei feddiant ac roedd y rhan fwyaf o'r arweinwyr Cymreig wedi talu gwrogaeth iddo. Y flwyddyn hon, hefyd, y galwodd ei hun yn Dywysog Cymru gyfa.<ref> Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008, tudalen 582.</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
 
[[Categori:1405]]