Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Rhyfel Byd Cyntaf"

Ychwanegwyd 8 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
newidiadau man using AWB
(newidiadau man using AWB)
Parhaodd yr ymosodiadau am fisoedd, gyda cholledion enbyd ar y ddwy ochr. Ar [[1 Mai]] cymerodd y cadfridog [[Robert Nivelle]] le'r cadfridog Pétain. Ar [[22 Mehefin]] [[1916]], defnyddiodd yr Almaenwyr nwy gwenwynig am y tro cyntaf yn y rhyfel.
 
Ar [[1 Gorffennaf]] dechreuodd [[Brwydr y Somme 1916|Brwydr y Somme]], oedd wedi ei bwriadu i geisio lleihau'r pwysau ar Verdun. Lladdwyd neu anafwyd mwy na miliwn a hanner o filwyr ym Mrwydr y Somme, a barhaodd hyd fis Tachwedd . Ceisiodd y Cyngheiriaid, unedau Prydeinig yn bennaf ond gyda rhai Ffrenngig, dorri trwy'r llinellau Almaenig ar hyd ffrynt 12 milltir (19  km) o hyd i'r gogledd a'r de o [[Afon Somme]] yng ngogledd Ffrainc. Cofir y frwydr yn bennaf am ei diwrnod cyntaf, [[1 Gorffennaf]] 1916, pan gollodd y fyddin Brydeinig 67,470 o filwyr, 19,240 wedi eu lladd; y nifer uchaf yn ei hanes.
 
Gwrth-ymosododd y Ffrancwyr yn Verdun ar [[21 Hydref]] [[1916]], a chipiasant Fort Douaumont ar [[24 Hydref]]. Erbyn ymosodiad olaf y Ffrancwyr a ddechreuodd ar [[11 Rhagfyr]], roedd yr Almaenwyr wedi eu gyrru yn ôl bron i'w man cychwyn. Ar [[6 Rhagfyr]] daeth [[David Lloyd George]] yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Yn dilyn y chwyldro yn Rwsia, arwyddwyd [[Cytundeb Brest-Litovsk]] rhwng Rwsia a'r Almaen ar [[3 Mawrth]]. Collodd Rwsia nifer o diriogaethau yn gyfnewid am heddwch. Galluogodd hyn yr Almaen i symud milwyr i'r ffrynt gorllewinol. Ar yr ochr arall, roedd nifer gynyddol o filwyr yr Unol Daleithiau yn ymuno a'r ymladd.
 
Ar [[21 Mawrth]], dechreuodd y fyddin Almaenig dan y cadfridog [[Erich Ludendorff]] ymosodiad newydd yn y gorllewin, i geisio rhoi diwedd ar y rhyfel cyn i fwy o luoedd yr Unol Daleithiau gyrraedd. Cawsant gryn lwyddiant, a dynesodd y ffrynt hyd at 120  km (75 milltir) o ddinas [[Paris]]. Ar ôl ymladd caled, llwyddodd y cyngheiriaid i sefydlogi'r ffrynt.
 
Dechreuodd gwrthymosodiad y cyngheiriaid ar [[8 Awst]], gyda byddinoedd Prydain, Ffrainc, Awstralia a Chanada yn cymeryd rhan ym [[Brwydr Amiens|Mrwydr Amiens]], gyda 414 o danciau a 120,000 o filwyr. Erbyn yr Hydref, roedd gallu'r Akmaen a'i chyngheiriaid i barhau'r rhyfel bron ar ben. Arwyddodd [[Bwlgaria]] gadoediad ar [[29 Medi]], ac ar [[30 Hydref]] ildiodd Ymerodraeth yr Ottomaniaid. Ar [[24 Hydref]] dechreuodd byddin [[yr Eidal]] ymosodiad newydd yn erbyn Awstria-Hwngari, a dinistriwyd byddin Awstria-Hwngait ym [[Brwydr Vittorio Veneto|Mrwydr Vittorio Veneto]]. Ar [[3 Tachwedd]] gofynnodd Awstria-Hwngari am gadoediad,
 
== Llenyddiaeth y Rhyfel ==
[[Delwedd:Hedd_Wyn_01Hedd Wyn 01(a-dg).JPG|180px|bawd|Hedd Wyn]]
 
Y bardd Cymraeg a gysylltir yn arbennig a'r rhyfel yw [[Hedd Wyn]] (Ellis Humphrey Evans, [[1887]] - [[1917]]), brodor o [[Trawsfynydd|Drawsfynydd]], a aeth yn [[milwr|filwr]] ym 15fed Bataliwn [[y Ffiwsilwyr Cymreig]] yn [[1917]] ac a laddwyd ym Mrwydr Cefn Pilkem (rhan o [[Brwydr Passchendaele|Frwydr Passchendaele]]) ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn. Enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|gadair]] [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917]] am ei awdl "Yr Arwr", er iddo gael ei ladd chwe mis ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddwyd ei fod wedi'i ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair â llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr [[eisteddfod]] honno fel '''Eisteddfod y Gadair Ddu'''. Ysgrifennodd y bardd [[Robert Williams Parry]] gyfres nodedig o englynion er cof amdano, sy'n dechrau gyda'r linell cofiadwy "Y bardd trwm dan bridd tramor."
==Tanciau==
==Twnelu==
 
 
 
= Llyfryddiaeth =
* [[Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru]]
* [[Y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol]]
 
[[Categori:Y Rhyfel Byd Cyntaf| ]]
[[Categori:Rhyfel]]
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|ast}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|ka}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|vi}}
 
[[Categori:Y Rhyfel Byd Cyntaf| ]]
[[Categori:Rhyfel]]
 
[[af:Eerste Wêreldoorlog]]
449,732

golygiad