Bleddyn ap Cynfyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Makecat-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: sh:Bleddyn ap Cynfyn
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
Roedd '''Bleddyn ap Cynfyn''' (m. [[1075]]) yn dywysog [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a [[Teyrnas Powys|Powys]].
 
Yr oedd Bleddyn yn fab i Cynfyn ap Gwerstan o hil brenhinol Powys. Pan laddwyd [[Gruffydd ap Llywelyn]] gan ei wyr ei hun ar ôl ei orchfygu gan [[Harold Godwinson]] yn [[1063]], rhannwyd ei deyrnas rhwng nifer o dywysogion. Talodd Bleddyn a'i frawd [[Rhiwallon ap Cynfyn|Rhiwallon]] wrogaeth i Harold a derbyniasant deyrnasoedd Gwynedd a Phowys. Yn [[1067]] ymunodd Bleddyn a Rhiwallon ag Eadric o Fercia i ymosod ar y [[Normaniaid]] yn [[Henffordd]], yna yn [[1068]] gwnaethant gynghrair a'r Iarll Edwin o Mercia a'r Iarll Morcar o Northumbria i ymosod ar y Normaniaid eto.
 
Ceisiodd dau fab Gruffydd ap Llywelyn gipio'r deyrnas o ddwylo Bleddyn, ond gallodd eu gorchfygu ym mrwydr [[Mechain]] yn [[1070]]. Lladdwyd un o'r ddau yn y frwydr a bu farw'r llall o oerni ar ôl y frwydr. Lladdwyd Rhiwallon, brawd Bleddyn, yn y frwydr hon hefyd, ac o hynny ymlaen bu Bleddyn yn teyrnasu ar Wynedd a Phowys ei hun tan ei farwolaeth. Fe'i lladdwyd yn [[1075]] gan [[Rhys ab Owain]] ag uchelwyr [[Ystrad Tywi]], llofruddiaeth a barodd fraw trwy Gymru. Yn ôl [[Brut y Tywysogion]] yr oedd Bleddyn yn frenin daionus ac yn gyfrifol am ddiweddaru cyfraith [[Hywel Dda]].
 
 
{| border=2 align="center" cellpadding=5
Llinell 15 ⟶ 14:
|width="30%" align="center"|'''Olynydd :'''<br>[[Maredudd ap Bleddyn]]<br>(fel Tywysog Powys)
|}
 
 
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]