Gruffudd ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: sh:Gruffydd ap Llywelyn |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 5:
[[File:Wales 1039-63 (Gruffudd ap Llywelyn).svg|bawd|right|200px|Teyrnas Gruffudd ap Llywelyn]]
Roedd Gruffudd yn fab i [[Llywelyn ap Seisyll|Lywelyn ap Seisyll]], y gŵr a gipiodd orsedd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] yn [[1018]], ac i Angharad, merch [[Maredudd ab Owain]], disgynnydd i [[Rhodri Mawr|Rodri Mawr]], ond nid oedd yn aelod o frenhinllin arferol Gwynedd, disgynyddion [[Idwal Foel]]. Yn [[1039]], daeth Gwynedd a [[Powys|Phowys]] i'w feddiant wedi iddo ladd [[Iago ap Idwal ap Meurig]], gor-ŵyr [[Idwal ab Anrawd]]. Yna aeth i'r afael â [[Deheubarth]] a'u harweinydd [[Hywel ab Edwin]]. Mewn brwydr enbyd ym [[Pencader|Mhencader]] (gweler [[Brwydr Pencader]]) yn [[1041]] trechodd Gruffudd Hywel gan ddwyn ei wraig oddi arno. Erbyn [[1044]] yr oedd wedi meddiannu Deheubarth, ond collodd ei afael ar y deyrnas honno yn [[1047]] a rhwystrwyd ei uchelgais yno gan [[Gruffudd ap Rhydderch|Ruffudd ap Rhydderch]]. Ni ddaeth Deheubarth yn derfynol i afael Gruffudd tan [[1055]] pan laddwyd Gruffudd ap Rhydderch. Yr oedd yn awr wedi dod i gytundeb â [[Mersia]], ac enillodd lawer o diriogaeth ar [[Y Mers|y gororau]], tiroedd tu draw i [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]] a feddiannwyd ers tri chan mlynedd a mwy gan wladychwyr Seisnig, gan gynnwys cipio a llosgi [[Henffordd]] yn [[1055]] ac ailfeddiannu [[Chwitffordd]] a'r [[Yr Hob|Hob]], [[Bangor Is-Coed]] a'r [[Y Waun|Waun]], [[Llanandras]] a [[Maesyfed]]. Erbyn hyn gallai hawlio bod yn frenin ar Gymru gyfan bron. Derbyniwyd ei hawl dros Gymru gan y [[Saeson]], a daeth i gytundeb ag [[Edward y Cyffeswr]]. Flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, cipiodd [[Morgannwg|Forgannwg]] gan ymlid oddi yno [[Cadwgan ap Meurig|Gadwgan ap Meurig]] o linach [[Hywel ap Rhys]]. Felly o tua [[1057]] hyd ei farw yn [[1063]], cydnabu Cymru i gyd frenhiniaeth Gruffudd ap Llywelyn.<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 97-98, Penguin 1990.</ref> Ys dywed yr hanesydd [[John Davies]]: "Am ryw saith mlynedd bu Cymru'n un o dan reolwr Cymreig, gorchest na chyflawnwyd mohoni na chynt na chwedyn."<ref name="Davies, John 1990">Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 98, Penguin 1990.</ref>
Gerwin oedd dull Gruffudd ap Llywelyn o uno cenedl. Edliwyd iddo ei barodrwydd i ladd ei wrthwynebwyr, a dywed [[Gwallter Map]], storïwr o [[Henffordd]], iddo ateb "Na soniwch am ladd. Nid wyf ond yn pylu cyrn epil Cymru rhag iddynt glwyfo eu mam". Enynnodd ei weithredoedd lid canghennau eraill o frenhinlin [[Rhodri Mawr]], a chreu hefyd ofn a dicter ymhlith y Saeson , oherwydd Gruffudd oedd y rheolwr Cymreig cyntaf ers [[Cadwallon]] â'r gallu i ymyrryd ym materion Lloegr.<ref
Yn [[1063]] ymosodwyd arno gan fyddin dan arweiniad [[Harold Godwinson]]. Erlidwyd ef o fan i fan, ac yn rhywle yn [[Eryri]], ar 5 Awst 1063, fe'i lladdwyd. Dywed y ''[[Brut]]'' mai un o'i wŷr ei hun a'i lladdodd. a dehongliad [[J.E. Lloyd]] o'r cofnod yw mai drwy frad y daeth diwedd Gruffudd ap Llywelyn; Yn ôl ''[[Cronicl Ulster]]'', [[Cynan ap Iago|Cynan]], tad [[Gruffudd ap Cynan]] a mab [[Iago ab Idwal]] (a laddwyd gan Ruffudd yn 1039) oedd y dyn a gyflawnodd y weithred.<ref>Davies, John; ''Hanes Cymru'', td 99, Penguin 1990.</ref> Anfonwyd pen Gruffudd i Harold. Rhannwyd ei deyrnas ymhlith nifer o olynwyr. Nid oes sail hanesyddol o gwbl i hanesyn [[Iolo Morganwg]] sy'n honni mai "[[Madog Min]], Esgob Bangor" a gyflawnodd y frad.
Llinell 18:
==Llyfryddiaeth==
* Gwynedd Pierce, 'Gruffudd ap Llywelyn', yn ''Ein Tywysogion'', gol. Gwynedd Pierce (Plaid Cymru, 1954).
{{dechrau-bocs}}
Llinell 52 ⟶ 51:
| ar ôl=[[Maredudd ab Owain ab Edwin]]}}
{{diwedd-bocs}}
[[Categori:Genedigaethau 1000]]
[[Categori:Marwolaethau 1063]]
[[Categori:Cymru'r Oesoedd Canol]]
[[Categori:Teyrnoedd Cymru]]
[[Categori:Teyrnoedd Deheubarth]]
|