Penllyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: br:Penllyn
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
{{Nodyn:Teyrnasoedd Cym}}
:''Erthygl am yr ardal yng Ngwynedd yw hon. Am y pentref ym Mro Morgannwg gweler [[Pen-llin]] (Penllyn).''
'''Penllyn''' yw'r ardal sydd o gwmpas [[Llyn Tegid]] a'r [[Y Bala|Bala]] ym [[Meirionnydd]] (de-ddwyrain [[Gwynedd]]). Mae'n cynnwys plwyfi [[Llandderfel]], [[Llanfor]], [[Llangywair]], [[Llanycil]] a [[Llanuwchllyn]]. Mae Penllyn yn ardal sy'n enwog am ei chyfraniad i ddiwylliant Cymru a [[llenyddiaeth Gymraeg]]. Dyma ardal "[[Y Pethe]]", chwedl [[Llwyd o'r Bryn]].
 
==Cantref Penllyn==
Yn [[Oes y Tywysogion]] [[cantref]] oedd [[Penllyn]]. Cynhelid ei lys yn [[Caer Gai|Nhgaer Gai]], ger [[Llyn Tegid]], ond yn ddiweddarach fe'i symudwyd i'r [[Y Bala|Bala]]. Roedd yn gantref ar y ffin rhwng [[teyrnas Gwynedd]] a [[Teyrnas Powys|Phowys]]. Ymddengys iddo ddechrau fel [[arglwyddiaeth]] annibynnol. Cysylltir yr arwr chwedlonol [[Gronw Pebyr]] â Phenllyn ym [[Math fab Mathonwy|Mhedwaredd Gainc]] [[Pedair Cainc y Mabinogi|y Mabinogi]]. Aeth yn rhan o deyrnas Powys yn y cyfnod cynnar. Roedd yn fan o bwys strategol yn gorwedd rhwng [[Ardudwy]] a [[Meirionnydd]] yn y gorllewin a [[Glyndyfrdwy]] yn y dwyrain a cheisiai tywysogion Gwynedd sicrhau meddiant arno er mwyn amddiffyn Gwynedd o ymosodiadau o du Powys a'r dwyrain. Fe'i cipiwyd yn derfynol gan [[Llywelyn Fawr]] ar ddechrau'r [[13eg ganrif]]. Ar ôl goresgyniad [[1284]] fe'i unwyd â Meirionnydd ac Ardudwy i greu [[Sir Feirionnydd]].
 
Ymrennid Penllyn yn ddau [[cwmwd|gwmwd]]:
Llinell 25:
*Geraint Bowen, ''Penllyn'' (1967)
*Elwyn Edwards, ''Blodeugerdd Penllyn'' (1983)
 
 
[[Categori:Cantrefi Cymru]]