Eudaf Hen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn newid: en:Eudaf Hen
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
Yn ôl traddodiad, un o frenhinoedd cynnar y [[Brythoniaid]] yng [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|nghyfnod y Rhufeiniaid]] oedd '''Eudaf''' neu '''Eudaf Hen'''. Ceir gwahanol draddodiadau amdano sy'n anodd cysoni â'i gilydd. Does dim tystiolaeth hanesyddol o gwbl i ategu'r traddodiadau hynny.
 
Yn y fersiynau [[Cymraeg Canol]] o'r ffug-hanes enwog ''[[Historia Regum Britanniae]]'' gan [[Sieffre o Fynwy]] ceir chwedl "Eudaf, Iarll [[Ewias]] ac [[Ergyng]]" yn ne-ddwyrain [[Cymru]]. "''Octavius'' Dug [[Wessex]]" a geir yn y testun Lladin gwreiddiol, ond Eudaf sydd yn y testunau Cymraeg fel ''[[Brut Dingestow]]''. Mae'r ''brut'' yn honni ei fod yn un o ddisgynyddion [[Caradog]], arweinydd y [[Silwriaid]] yn erbyn y [[Rhufeiniaid]]. Yn ôl Sieffre, cododd Eudaf/Octavius mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid ar ôl ymadawiad [[Cystennin]] am Rufain a daeth yn "Uchel Frenin [[Ynys Prydain]]" ar ôl curo Trahaearn, brawd [[Coel Hen]]. Dywedir iddo deyrnasu am gyfnod hir, gan ennill i'w hun yr enw 'Eudaf Hen'. <ref>Henry Lewis (gol.). ''Brut Dingestow'' (Caerdydd, 1942), tud. 228-30.</ref>
 
Cyfeirir at Eudaf yn y chwedl Cymraeg Canol ''[[Breuddwyd Macsen Wledig]]''. Yno mae'n dad i [[Elen Luyddog]], gwraig [[Macsen Wledig]] (mae traddodiadau eraill yn gwneud Elen yn ferch i Goel Hen o'r [[Hen Ogledd]]) ac yn byw yn ardal [[Segontiwm]] yn [[Arfon]], [[Gwynedd]]. Yn ôl y ''Breuddwyd'', mae [[Cynan Meiriadog]] yn fab iddo ac felly'n chwaer i Elen.<ref>Ifor Williams (gol.), ''Breuddwyd Maxen'' (Bangor, 1920), tud. 24.</ref>