Owain ab Urien: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn newid: sh:Owain mab Urien
→‎Traddodiad: newidiadau man using AWB
Llinell 18:
Erbyn yr Oesoedd Canol yr oedd Owain, fel sawl cymeriad hanesyddol arall o'r Hen Ogledd (e.e. Taliesin fel [[Taliesin Ben Beirdd]]), wedi troi'n ffigwr chwedlonol. Mae'n arwr y rhamant ''[[Iarlles y Ffynnon]]'', un o'r [[Tair Rhamant]] Cymraeg, ac yn ymddangos fel ''Yvain'' yn y gerdd ''[[Le Chevalier au Lion]]'' ('Y Marchog a'r Llew') gan y Ffrancwr [[Chrétien de Troyes]]. Mae Owain ab Urien yn gymeriad amlwg yn y chwedl ddychanol ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'' yn ogystal. Yn y gweithiau hyn i gyd cysylltir Owain â chylch y brenin [[Arthur]] (yntau wedi troi'n ffigwr chwedlonol). Ceir nifer o gyfeiriadau at Owain yng ngwaith [[Beirdd y Tywysogion]] a [[Beirdd yr Uchelwyr]] yn ogystal, weithiau fel 'Marchog y Ffynnon' neu 'Marchog y Cawg'.
 
Yn ôl un traddodiad, roedd ganddo chwaer efaill o'r enw [[Morfudd ferch Urien|Morfudd]]. Mae Morfudd ac Owain yn ymddangos mewn hen [[llên gwerin Cymru|chwedl werin Cymraeg]] a gysylltir a [[Llanferres]], yn awr yn [[Sir Ddinbych]]. Gerllaw Llanferres roedd [[rhyd]] a elwid yn Rhyd-y-gyfarthfa. Byddai holl gŵn y wlad yn dod yno i gyfarth, ond ni feiddiai neb fynd yno i weld beth oedd yn ei achosi nes i [[Urien Rheged]] fynd, a darganfod merch yn golchi. Cafodd Urien ryw gyda'r ferch yn y rhyd, ac yna dywedodd hi ei bod yn ferch i frenin [[Annwn]], a bod tynged arni i olchi wrth y rhyd nes cael mab gan Gristion. Dywedodd wrth Urien am ddychwelyd ymhen blwyydyn, a phan ddaeth, cyflwynodd hi ddau blentyn iddo, [[Owain ab Urien|Owain]] a Morfudd.
 
Nid yw'r ferch yn rhoi ei henw yn y chwedl, ond mae un o Drioedd Ynys Prydain (70) yn cyfeirio at Owain ab Urien a Morfudd ei chwaer fel plant Modron ferch Afallach. Uniaethir Modron a'r fam-dduwies [[Matrona]], oedd yn dduwies [[Afon Marne]] yng [[Gâl|Ngâl]] ac yn dduwies ffrwythlondeb a'r cynhaeaf. Gellir dosbarthu'r chwedl am Ryd-y-gyfarthfa ([[Llanferres]]) yn y dosbarth o chwedlau Celtaidd am 'olchwraig y rhyd' a duwies sofraniaeth.