Awdl enghreifftiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llythr bach
newidiadau man using AWB
Llinell 2:
Math arbennig o '''[[awdl]]''' yw '''awdl enghreifftiol''' sy'n cynnwys pob un o'r [[pedwar mesur ar hugain]].
 
Yn wreiddiol, ''cân ar un mesur oedd awdl''<ref name="ReferenceA">[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925</ref>, ond dechreuodd y Gogynfeirdd hwyraf ganu ''teirawdl'' a ''phymawdl'', felly daeth '''awdl''' yn gyfystyr â cherdd ar fwy nag un mesur. Ers amser [[Beirdd yr Uchelwyr]], mae '''awdl''' wedi golygu cerdd ar fwy nag un o'r [[Pedwar mesur ar hugain|mesurau caeth traddodiadol]]. Mae '''awdl enghreifftiol''' yn cynnwys pob un o'r mesurau hyn, boed [[Pedwar mesur ar hugain#Mesurau Dafydd ab Edmwnd|ddosbarth Dafydd ab Edmwnd]] neu'r [[Pedwar mesur ar hugain#Yr Hen XXIV Mesur|hen fesurau]]
 
Yn amlach na pheidio, er gorchest yn unig y canwyd awdlau enghreifftiol fel mesur o fedrusrwydd a deheuigrwydd y [[bardd]] caeth wrth drin y mesurau traddodiadol. Cenid awdlau enghreifftiol yn aml gan feirdd ar eu prifiant er mwyn dangos bod ganddynt afael cadarn ar eu crefft.<ref>[http://users.comlab.ox.ac.uk/geraint.jones/gwasg.aredig/cynghanedd/geirfa/#awdl_engreifftiol Clywed Cynghanedd]</ref>
Llinell 10:
Cyflwynwyd awdl enghreifftiol o waith [[Roy Stephens]] i gystadleuaeth y gadair ym [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978|1978]], ond ataliwyd y wobr. Yn ogystal, cyflwynwyd awdl enghreifftiol i gystadleuaeth y gadair ym [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993|1993]] o dan y ffugenw ''RHisiart, Gweunydd'', ond gosodwyd yr awdl yn isel yn y gystadleuaeth oherwydd bod cyfyngiadau rhai o'r mesurau yn rhoi straen ar y mynegiant.<ref>Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 1993, Gwasg Dinefwr</ref>
 
Canodd [[Dafydd Nanmor]]; gŵr a ystyrid i fod yn arloesol o ran ''chware campau â chynghanedd a mydr''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925<name="ReferenceA"/ref> yn ei ddydd; awdl enghreifftiol ar yr [[Pedwar mesur ar hugain|hen fesurau]] yn hytrach na dilyn mesurau [[Dafydd ab Edmwnd]]. Ceir hefyd awdlau enghreifftiol o waith [[Gwilym Tew]] a nifer o feistri mawr cyfnod [[Beirdd yr Uchelwyr]], ond gellir dweud nad yw'r awdlau hyn ymysg eu gweithiau mwyaf arhosol, a bod mwy o werth llenyddol yn eu cywyddau gan mai gorchestion cynganeddol oedd yr awdlau yn bennaf. Dywed y [[Prifardd]] [[Alan Llwyd]]:
:''...unig ddiben yr awdlau hyn oedd profi hyfedredd. Rhyw fath o feini prawf oedd yr awdlau enghreifftiol hyn, a dim arall.''<ref>[[Alan Llwyd]], ''Anghenion y Gynghanedd'', Cyhoeddiadau Barddas, 2007</ref>