Gorchest y Beirdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
{{24 mesur}}
Un o [[Pedwar Mesur ar Hugain|Bedwar Mesur ar Hugain]] [[Dafydd ab Edmwnd]] yw '''Gorchest y Beirdd''' (hefyd '''Gorchest Beirdd'''<ref name="ReferenceA">[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925</ref>).
 
==Tarddiad==
Llinell 12:
Mae gan bennill o '''Orchest y Beirdd''' bymtheg sillaf wedi'u gosod fel a ganlyn: 4,4,4,3. Yn y tair rhan gyntaf, cynhelir odl ar yr ail sillaf, a chynhelir odl hefyd ar y bedwaredd sillaf rhwng y tair rhan. Cynganeddir y ddwy ran gyntaf yn annibynnol. Caiff y drydedd ran ei chynganeddu'n annibynnol ond mae hefyd yn cynganeddu gyda'r bedwaredd ran fel un llinell saith sillaf. Mae sillaf olaf y bedwaredd ran yn cynnal y brifodl.
 
Dyma enghraifft o'r mesur o waith [[Siôn Tudur]]:<ref name="ReferenceB">[[Alan Llwyd]], ''Anghenion y Gynghanedd'', Cyhoeddiadau Barddas, 2007</ref>
 
:''Dôi 'rhyd y rhiw, dull hud a lliw,''
Llinell 56:
Daw'r odlau o dan ei gilydd uchod.
 
Dyma enghraifft arall o waith [[Dafydd ab Edmwnd]], arloeswr y mesur:<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925<name="ReferenceA"/ref>
 
:''I'ch ll'''ys''' iach ll'''awn''', wiw R'''ys''' yr '''awn''',''
Llinell 63:
:''Aur rh'''udd''', ŵr h'''ael''', rhwydd y rh'''ed'''.''
 
Fel y gwelir uchod, mae'n fesur ''astrus'' a ''chlogyrnaidd''<ref>[[Alan Llwyd]], ''Anghenion y Gynghanedd'', Cyhoeddiadau Barddas, 2007<name="ReferenceB"/ref> oherwydd y rheolau llymion y mae'n rhaid ufuddhau iddynt. Anaml iawn y gwelir enghraifft o'r mesur nad yw'n rhan o [[awdl enghreifftiol]], sef [[awdl]] orchestol sy'n cynnwys pob un o'r pedwar mesur ar hugain.
 
Ni chenir nemor ddim ar y mesur hwn heddiw gan fod y rheolau yn tueddu i gyfyngu mynegiant y bardd.
 
Dywed y [[Prifardd]] [[Alan Llwyd]] fod y ddau fesur a neilltuwyd ar gyfer '''Gorchest y Beirdd''' a '''Chadwynfyr''', sef yr [[englyn milwr]] a'r [[englyn penfyr]], yn "llawer mwy defnyddiol".<ref>[[Alan Llwyd]], ''Anghenion y Gynghanedd'', Cyhoeddiadau Barddas, 2007<name="ReferenceB"/ref>
 
==Llyfryddiaeth==