Branwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
+ interlink
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
'''Branwen''' yw'r prif gymeriad yn yr ail o [[Pedair Cainc y Mabinogi|Bedair Cainc y Mabinogi]], chwedl [[Branwen ferch Llŷr]].
 
[[Delwedd:Branwen_drudwyBranwen drudwy.JPG|300px|bawd|Branwen a'r drudwy yn llys Matholwch - llun yng nghyfieithiad [[Charlotte Guest]] o'r Mabinogion (1877)]]Mae Branwen yn chwaer i'r brenin [[Bendigeidfran fab Llŷr]]. Daw [[Matholwch]] brenin [[Iwerddon]] i ofyn am Franwen yn wraig iddo. Cytunir i'r briodas, ond yn ystod y wledd i'w dathlu mae [[Efnysien]], hanner brawd Branwen, yn cyrraedd y llys. Mae'n ddig na ofynwyd am ei ganiatâd ef cyn trefnu'r briodas, ac mae'n anffurfio meirch Matholwch fel dial.
 
Yn Iwerddon mae Branwen yn byw'n gytun gyda Matholwch am gyfnod, a genir mab, [[Gwern (mytholeg)|Gwern]], iddynt, ond yna mae Matholwch yn cofio'r hyn a wnaeth Efnysien i'w geffylau ac yn dial am ei sarhad ar Franwen. Caiff ei gyrru i weithio yn y gegin am dair blynedd, ond mae'n dofi [[Drudwy|drudwy]] ac yn ei yrru draw i Brydain gyda neges i Fendigeidfran yn dweud sut y mae'n cael ei thrin. Mae Bendigeidfran a'i fyddin yn croesi i Iwerddon, y fyddin mewn llongau ond Bendigeidfran yn cerdded trwy'r môr, gan ei fod yn gawr na all yr un llong ei gario.
 
Cynhelir cyfarfod i drafod amodau heddwch, ond mae Efnysien yn rhoi diwedd ar hyn trwy afael yn Gwern, mab Branwen a Matholwch, a'i daflu i'r tân. Rhyfel yw'r canlyniad, a lleddir llawer o filwyr ar y ddwy ochr. Yn y diwedd mae holl wŷr Iwerddon wedi ei lladd, a dim ond saith o fyddin Bendigeidfran sy'n fyw i ddychwelyd i Brydain gyda Branwen. Lladdwyd Bendigeidfran ei hun, ond cyn marw gorchymynodd i'w wŷr dorri ei ben a mynd a'r pen yn ôl gyda hwy.
Llinell 9:
Wedi dychwelyd, mae Branwen yn rhoi ochenaid fawr a galaru fod dwy ynys wedi eu difetha o'i hachos hi. Mae'n marw o dor-calon ger aber [[Afon Alaw]] ar [[Ynys Môn]] ac yn cael ei chladdu yno:
 
:''Ac yna y llas y benn ef (Bendigeidfran), ac y kychwynassant a'r pen gantu drwod, y seithwyr hynn, a Branwen yn wythuet. Ac y Aber Alau yn Talebolyon y doethant y'r tir. Ac yna eisted a wnaethant, a gorfowys. Edrych oheni hitheu ar Iwerdon, ac ar Ynys y Kedyrn, a welei ohonunt. "Oy a uab Duw," heb hi, "guae ui o'm ganedigaeth. Da [o] dwy ynys a diffeithwyt o'm achaws i." A dodi ucheneit uawr, a thorri y chalon ar hynny. A gwneuthur bed petrual idi, a'e chladu yno yglan Alaw.''
 
Gellir gweld [[Bedd Branwen]] ger Afon Alaw hyd heddiw, ond mae'n llawer hŷn na'r chwedl, yn dyddio i [[Oes yr Efydd]].
Llinell 16:
===Y testun===
*Ifor Williams (gol.), ''Pedeir Keinc y Mabinogi'' (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad newydd ers hynny)
 
 
[[Categori:Duwiesau]]