Gwydion fab Dôn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Robot: Yn fformatio'r rhif ISBN
newidiadau man using AWB
Llinell 6:
Cynllun Gwydion yw trefnu rhyfel trwy deithio i [[Teyrnas Dyfed|Ddyfed]] at [[Pryderi]], prif gymeriad y gainc gyntaf o'r Mabinogi, yn ei lys yn [[Rhuddlan Teifi]]. Mae'n perswadio Pryderi i roi iddo'r moch a gafodd gan [[Arawn]] brenin [[Annwfn]] yn gyfnewid am feirch a chŵn hela, ond ar ôl i Gwydion adael gyda'r moch mae Pryderi'n darganfod mai rhith yw'r cŵn a'r meirch ac yn ei ymlid. Cynullir llu Gwynedd, ac yn absenoldeb Math caiff Gilfaethwy ei gyfle i dreisio Goewin yng ngwely Math. Lledir Pryderi gan Wydion. Dychwelodd Math i [[Caer Dathyl|Gaer Dathyl]] ac ar ddarganfod yr hyn oedd wedi digwydd cymerodd Goewin yn wraig iddo a rhoi llywodraeth ei deyrnas yn ei llaw hi.
 
Fel cosb ar y ddau frawd cymerodd Math ei [[hudlath]] a tharo Gilfaethwy "hyd onid oedd yn [[ewig]] mawr" a tharo Gwydion "hyd onid oedd yn [[carw| garw]]". Datganodd Math: "Gan eich bod wedi eich cyd-rwymo fe wnaf ichwi gydgerdded, a'ch bod yn gymaredig ac o'r un natur â'r anifeiliaid gwyllt yr ydych yn eu ffurf, ac yn yr amser y byddo epil iddynt hwy fe fydd i chwithau. A blwyddyn i heddiw dewch yma ataf i." Ymhen y flwyddyn dychwelodd y carw Gwydion a'r ewig Gilfaethwy gydag [[elain]] gref yn epil iddynt. Cymerodd Math ei hudlath a throi Gilfaethwy'n [[baedd| faedd]] a Gwydion yn [[hwch goed]] a'u hanfon ymaith am flwyddyn arall. Cymerodd Math y mab a'i fedyddio gyda'r enw [[Hyddwn]]. Ar ôl blwyddyn arall dychwelodd y baedd Gilfaethwy a'r hwch goed Gwydion gydag "anifail o gryn faint...yn fawr o'i oed" yn epil iddynt. Cymerodd Math ei hudlath unwaith eto a throi Gilfaethwy'n fleiddast a Gwydion yn [[blaidd|flaidd]]. Bedyddiwyd y mab gyda'r enw [[Hychddwn]]. Dychwelodd y brodyr ymhen blwyddyn gyda chenau blaidd yn fab iddynt. Cafodd ei fedyddio gyda'r enw [[Bleiddwn]]. Dychwelodd Math y ddau frawd i'w cnawd eu hunain a dweud: "Wŷr, os gwnaethoch gam â mi, digon y buoch o dan fy nghosb".
 
Roedd yn rhaid i Math gael morwyn newydd gan nad oedd Goewin yn forwyn bellach. Cynghorodd Gwydion iddo ddewis [[Arianrhod]], chwaer Gwydion. I sicrhau mai morwyn oedd hi, gofynnodd Math iddi gamu dros ei [[hudlath]] ef. Wrth wneud hyn gadawodd fachgen mawr penfelyn, a bu iddi redeg ymaith mewn cywilydd, ond ar gyrchu'r drws gadawodd rywbeth bychan cyn mynd. Cymerodd Gwydion ef cyn i neb gael ail olwg arno, ei blygu mewn llen sidanwe a'i guddio mewn cist fechan wrth droed ei wely. Yn ddiweddarach clywodd Gwydion sgrech yn ei gist, ac o'i hagor darganfod mab bychan. Rhoddwyd ef allan i'w fagu am gyfnod, yna magwyd yn y llys gan ei ewythr Gwydion.
Llinell 45:
* Ifans, Dafydd & Rhiannon, ''Y Mabinogion'' (Gomer 1980) ISBN 1-85902-260-X (Sylwer fod y dyfyniadau uchod yn dod o'r diweddariad hwn yn hytrach na thestun gwreiddiol y ''Pedair Cainc''.)
*Ifor Williams (gol.), ''Pedeir Keinc y Mabinogi'' (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad diweddarach)
 
 
[[Categori:Pedair Cainc y Mabinogi]]