Llyn Tegid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: it:Lago di Bala
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Bala Lake.jpg|300px|bawd|'''Llyn Tegid''' o'r [[Y Bala|Bala]], gyda [[Aran Benllyn]] yn y cefndir]]
[[Delwedd:Tegid.gif|bawd|300px]]
Llyn naturiol mwyaf [[Cymru]] yw '''Llyn Tegid''' (6.4km4 km / 4 milltir o hyd, 1.6km6 km/1 milltir o led). fe'i lleolir i'r de o'r [[Y Bala|Bala]] yng nghanol ardal [[Penllyn]] ym [[Meirionnydd]], de [[Gwynedd]]. Mae [[Afon Dyfrdwy]] yn llifo trwyddo. Mae [[Rheilffordd Llyn Tegid]] yn rhedeg ar hyd ei lannau deheuol. Mae'n gorwedd rhwng mynyddoedd [[Aran Benllyn]] a'r [[Berwyn]] i'r dwyrain ac [[Arenig Fawr]] i'r gorllewin. Mae'r llyn yn boblogaidd iawn i [[hwylio]], [[bordhwylio]], [[canŵio]] a [[pysgota|physgota]]. Ar ei lan gogleddol ceir [[Gwersyll yr Urdd Glan-llyn|Canolfan Glanllyn]], gwersyll yr [[Urdd Gobaith Cymru|Urdd]].
 
==Bywyd gwyllt==
Mae'r llyn dwfn, clir yn gartref i lawer o anifeiliaid megis, er enghraifft [[penhwyad|penhwyaid]], [[brithyll|brithyllod]]od a [[llysywen|llysywenod]]od. Mae nifer o'r rhywogaethau sydd yn byw yn y llyn yn brin iawn - er enghraifft [[Pysgoden|pysgod]] fel y [[gwyniad]] (''Coregonus lavaretus'') a [[malwen]] dŵr croyw brinnaf Prydain, y [[Malwen lysnafeddog|falwen lysnafeddog]] (''Myxas glutinosa''). Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae'r broblem o [[ewtroffigedd]] wedi datblygu yn Llyn Tegid sydd yn berygl fawr i nifer o'r rhywogaethau a geir yn y llyn.
 
==Traddodiadau==
Cysylltir y cymeriad chwedlonol [[Tegid Foel]] â'r llyn. Yn y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]'' mae Tegid yn ŵr i'r dduwies / wyddones [[Ceridwen]]. Roedd ei lys yn sefyll ar dir sydd dan ddŵr y llyn heddiw. Yn ôl traddodiadau [[llên gwerin]], boddwyd llys Tegid Foel un noson. Dywedir fod golau'r llys a'r dref fach o'i gwmpas i'w weld liw nos loergan.
 
Traddodiad diweddar iawn yw'r un am yr anghenfil o'r enw "Tegi" sydd yn nofio yn nyfnderau Llyn Tegid. Datblygodd y chwedl dan ddylanwad amlwg y chwedl am "Nessie" yn [[Loch Ness]], yn yr [[Alban]].
 
 
[[Categori:Llynnoedd Gwynedd|Tegid]]