Plant Rhys Ddwfn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
newidiadau man using AWB
Llinell 6:
Yr unig draddodiad am Rhys Ddwfn ei hun yw ei fod yn bennaeth ar y Tylwyth Teg hyn. Mewn [[Cymraeg Canol]], un o ystyron y gair ''dwfn'' yw 'byd'. Gallai hefyd fod yn gyfeiriad at y môr. Mae rhai o'r chwedlau yn derbyn mai 'doeth' yw'r ystyr, ond ymddengys mai esboniad diweddar yw hynny.<ref>T. Gwynn Jones, ''Welsh Folklore and Folk-Custom'' (D. S. Brewer, 1930; 1979), tud. 58.</ref>
 
Dywedir mai rhinwedd llysiau neilltuol a dyfai ar yr ynysoedd a gadwai gwlad Plant Rhys Ddwfn yn anweledig i bobl meidrol. Nid oedd y llysiau hyn yn tyfu mewn unrhyw le arall heblaw llecyn bychan o lathen sgwar o dir yng Nghemais. Pe bai rhywun yn sefyll arno fe welai'r cyfan o wlad Plant Rhys Ddwfn o flaen ei lygaid.<ref name="Straeon y Cymry, tud. 11">''Straeon y Cymry'', tud. 11.</ref> Ceir chwedlau am y Plant yn ymweld â'r tir mawr i fasnachu ac roeddent i'w gweld weithiau ym marchnad [[Aberteifi]].<ref>'' name="Straeon y Cymry'', tud. 11.<"/ref> Elfen ddiweddarach yn y chwedlau, fe ymddengys, sy'n priodoli doethineb a chwrteisi arbennig iddynt, gan ddweud fod Rhys Ddwfn wedi dysgu iddynt barchu eu rhieni a'u cyndeidiau a bod yn ffyddlon i'w gilydd ar bob achlysur: mae'n debyg fod hyn yn ymgais i esbonio'r gair 'dwfn'.<ref name="ReferenceA">''Welsh Folklore and Folk-Custom'', tud. 58.</ref>
 
Ceir sawl traddodiad o Ddyfed, yn cynnwys un o ardal [[Llan-non]], fod ynysoedd Plant Rhys Ddwfn i'w gweld allan yn y môr weithiau, ond nid gan bawb.<ref>''Welsh Folklore and Folk-Custom'', tud. 58.<name="ReferenceA"/ref>
 
==Cyfatebiaethau==
Llinell 15:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
 
[[Categori:Creaduriaid mytholegol]]