Beiau Gwaharddedig Cerdd Dafod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
newidiadau man using AWB
Llinell 19:
*'''Crych a llyfn'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 145</ref>
::Mae llinell yn euog o ''Grych a llyfn'' pan fo'r acen yn gwahanu dwy gytsain y mae gofyn eu hateb. Mae'r llinell:
::::''Y mae'n pydru mewn pader''
::yn euog o'r bai hwn gan fod yr acen yn gwahanu y "d" a'r "r" yn "pader" tra bo'r ddwy gytsain yn syrthio ar yr acen yn "pydru".
::Ceir tystiolaeth nad oedd pob [[Beirdd yr Uchelwyr|bardd llys]] yn derbyn fod ''crych a llyfn'' yn fai i'w ochel. Ceir 63 enghraifft ohono yng ngolygiad yr Athro [[Dafydd Johnston]] o waith [[Lewys Glyn Cothi]], er enghraifft, ac yn ei gopi o ramadeg y beirdd mae [[Siôn Brwynog]] yn dadlau "nad oedd ef yn fai, ac y gellid ei ganu a'i warantu yn ddifai".<ref>[[Dafydd Johnston]] (gol.), ''Gwaith Lewys Glyn Cothi'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1995), rhagymadrodd, tud. xxxiv.</ref>
*'''Proest i'r odl'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 255-262 </ref>
::Mae llinell yn euog o ''Broest i'r odl'' pan fo odl [[Proest|broest]] yn digwydd rhwng y ddwy brif acen. Mae'r llinell:
::::''Gerllaw tân y gŵr llwyd hen'' ([[Dafydd ap Gwilym]])
::yn euog o ''Broest i'r odl'' gan fod "tân" a "hen" yn gorffen gyda'r gytsain "n" a dwy lafariad ysgafn gan y ddau air.
*'''Dybryd Sain'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 257-258</ref>
Llinell 31:
*'''Ymsathr odlau'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 260</ref>
::Mae llinell yn euog o ''Ymsathr Odlau'' pan fo'r llafariad bur cyn yr orffwysfa yn proestio ag ail elfen deusain leddf ar ddiwedd y llinell. Mae'r llinell:
::::''Y gŵr o Gaerlleon gawr'' ([[Simwnt Fychan]])
::yn cael ei defnyddio'n aml i ddangos y bai hwn. Mae'r llafariad bur cyn yr orffwysfa (ŵ) yn proestio ag ail elfen y ddeusain leddf ar derfyn y llinell, sef yr "w" yn y ddeusain "aw". Fodd bynnag, ni chosbir y bai hwn yn llym y dyddiau hyn.
*'''Trwm ac ysgafn'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 232-235</ref>
Llinell 50:
*'''Camosodiad'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 298-299</ref>
::Mae llinell yn euog o ''Gamosodiad'' pan fo'r cytseiniaid yn y gyfatebiaeth wedi'u gosod yn y drefn anghywir. Mae'r llinell:
::::''Ac ar ôl trais, galar trwm'' ([[Tudur Aled]])
::yn euog o'r bai hwn gan na chaiff y cytseiniaid eu cyfateb yn y drefn gywir; (g-r-l-t-r ; g-l-r-t-r) (seinir "ac" fel "ag" mewn cyfatebiaeth gynganeddol).
*'''Twyll Gynghanedd'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 299-300</ref>
::Mae llinell yn euog o ''Dwyll Gynghanedd'' pan na chaiff cytsain neu gytseiniaid eu hateb mewn llinell o gynghanedd. Mae'r llinell:
::::''Golwg teg fydd gweled hyn'' ([[Dafydd ap Gwilym]])
::yn euog o'r bai hwn gan na chaiff yr ail "g" yn "golwg" ei hateb yn ail hanner y llinell.
*'''Twyll Odl'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 300</ref>
Llinell 60:
*'''Gormod (Gormodd) Odlau'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 300-301</ref>
::Mae llinell yn euog o ''Ormod Odlau'' pan fo gair acennog sy'n dwyn un o acenion y gynghanedd yn odli gyda'r brifodl os yw'r brifodl yn ddiacen. Mae'r llinell:
::::''Yn y llan a ni'n llonni''
::yn euog o'r bai hwn gan fod "ni" yn odli gyda'r brifodl, sef "llonni".
*'''Rhy debyg'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 303-304</ref>
::Mae llinell yn euog o fod yn ''Rhy Debyg'' pan fo'r un llafariaid yn ymddangos cyn ac ar ôl yr acen mewn cynghanedd gytbwys ddiacen yn unig. Mae'r llinell:
::::''Pur ryfedd yw pob rhyfel''
::yn euog o'r bai hwn gan fod "rhyfedd" a "rhyfel" yn rhannu'r un llafariaid cyn ac ar ôl yr acen.
*'''Tor Mesur'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 305</ref>
::Mae llinell yn euog o ''Dor Mesur'' pan fo prinder neu ormodedd sillafau mewn llinell ar fesur arbennig. Un enghraifft yw:
::::''Anodd yw dy goelio unawr'',
::sydd un sillaf yn rhy hir i fod yn llinell gywir o [[Cywydd deuair hirion|Gywydd Deuair Hirion]]. Gall enghreifftiau o dor mesur yng ngwaith [[Beirdd yr Uchelwyr]] fod yn llithriadau gan gopïwyr.
*'''Gwestodl'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 306</ref>
Llinell 86:
*'''Camacennu'''<ref>[[Myrddin ap Dafydd]], ''Clywed Cynghanedd'', [[Gwasg Carreg Gwalch]], 1994, tudalen 150</ref>
::Mae llinell yn euog o ''gamacennu'' pan nad yw'r acen yn gyson ar y ddwy ochr, a phan nad yw'r cytseiniaid o gwmpas yr acen yn dilyn yr un patrwm. Mae'r cyfatebiaethau:
::::''gweddi/gweddïais'' a ''Stŵr o hyd yw'r storïau''
::yn euog o gamacennu.
*'''Llysiant Llusg'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 180-181</ref>
::Rheol yw hon sy'n nodi na chaniateir defnyddio'r [[Cynghanedd lusg|gynghanedd Lusg]] yn llinell olaf pennill o gywydd na llinell olaf [[Englyn unodl union]]. Ceir peth anghytundeb ynglŷn â'i defnydd yn llinell olaf yr englyn penfyr a'r englyn milwr.
*'''Carnymorddiwes'''<ref name="Cerdd Dafod 1925">[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 304-305</ref>
::Dyma'r enw ar y bai o osod dwy brifodl ddiacen mewn pennill o gywydd neu [[esgyll]] [[englyn unodl union]].
*'''Tin ab'''<ref>[[John Morris-Jones]], ''name="Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 304-305<"/ref>
::Mae'r bai ''tin ab'' yn debyg i ''Garnymorddiwes'', ond y bai y tro hwn yw gosod dwy brifodl acennog mewn pennill o gywydd neu esgyll [[englyn unodl union]]
 
Llinell 106:
==Gweler hefyd==
*[[Pedwar mesur ar hugain]] Cerdd Dafod
 
 
[[Categori:Barddoniaeth Gymraeg]]