Seisyllwg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
{{Nodyn:Teyrnasoedd Cym}}
Roedd '''Seisyllwg''' yn deyrnas yn ne-orllewin [[Cymru]], fu'n bodoli o tua [[730]] hyd [[920]].
 
Ar ddechrau'r [[8fed ganrif]] rheolai'r brenin [[Seisyll ap Clydog]] yn [[Teyrnas Ceredigion|Ngheredigion]]. Tua'r flwyddyn [[730]] cipiodd Seisyll [[Ystrad Tywi]] oddi wrth [[Rhain ap Cadwgan]], brenin [[Teyrnas Dyfed|Dyfed]], a'i ychwanegu at ei deyrnas ei hun. Rhoddwyd yr enw [[Seisyllwg]] ar y deyrnas estynedig newydd. Cofnodir fod ei fab, [[Arthen ap Seisyll]], wedi marw yn [[807]].
 
Yn [[872]] boddwyd trwy ddamwain [[Gwgon ap Meurig]], brenin Seisyllwg, ac ychwanegodd [[Rhodri Mawr]] ei deyrnas at ei feddiannau trwy ei briodas ag Angharad, chwaer Gwgon a gor-gor-gor-wyres Seisyll ap Clydog. Yr oedd Rhodri yn awr yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Ar farwolaeth Rhodri etifeddwyd Seisyllwg gan [[Cadell ap Rhodri]] ac fe'i ail-sefydlwyd am gyfnod fel teyrnas annibynnol. Llwyddodd Cadell i goncro [[Teyrnas Dyfed|Dyfed]] yn 904/905, a'i rhoi i'w fab [[Hywel Dda]] i'w llywodraethu.
Llinell 9:
 
==Llyfryddiaeth==
* [[John Edward Lloyd]] (1911) ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co})
 
 
{{Teyrnasoedd Cymru}}