Charles Edward Stuart: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
newidiadau man using AWB
Llinell 9:
Ar [[23 Gorffennaf]], [[1745]], glaniodd Charles a saith cydymaith yn [[Eriskay]] yn Ucheldiroedd yr Alban, i gefnogi hawl ei dad i'r orsedd. Cododd faner ei dad yn [[Glenfinnan]], a llwyddodd i godi digon o ddilynwyr i ymdeithio tua dinas [[Caeredin]]. Ar [[21 Medi]] [[1745]], gorchfygodd fyddin y llywodraeth ym [[Brwydr Prestonpans|Mrwydr Prestonpans]], ac erbyn Tachwedd roedd ganddo fyddin o 6,000. Ymdeithiodd tua'r de, gan anelu am Lundain, a chyrhaeddodd cyn belled a [[Derby]]. Yma, oherwydd diffyg cefnofaeth gan Jacobitiaid Lloegr, penderfynwyd troi'n ôl am yr Alban. Gorchfygwyd ei fyddin gan fyddin y llywodraeth dan [[William Augustus, Dug Cumberland]] ar [[16 Ebrill]] [[1746]] ym [[Brwydr Culloden|Mrwydr Culloden]]. Bu Charles ar ffô yn Ucheldiroedd yr Alban am fisoedd cyn medru dychwelyd i Ffrainc ym mis Medi. Bu fyw yn Ffrainc a'r Eidal hyd ei farwolaeth.
 
Er fod cryn nifer o Jacobitiaid yng Nghymru, nid ymddengys i fawr o Gymry gymeryd rhan yn ymgyrch 1745. Dywedir i Charles yn ddiweddarach, wrth sôn beth a wnai dros y Jacobitiaid Cymreig, ddweud "Mi yfaf iechyd da iddyn nhw - dyna'r cyfan wnaethon nhw i mi".
 
 
{{DEFAULTSORT:Stuart, Charles Edward}}