Eugenius Vulgarius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
Llinell 4:
 
==Synod y Corff Marw==
[[Delwedd:Jean_Paul_Laurens_Le_Pape_Formose_et_Etienne_VII_1870Jean Paul Laurens Le Pape Formose et Etienne VII 1870.jpg|300px|bawd|Synod y Corff Marw ([[Jean Paul Laurens]], [[1870]])]]
Ymddengys iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn byw'n dawel ac yn ysgrifennu. Ni fentrodd i ymyrru yn y byd a'i bethau ond unwaith, a bu'n edifar ganddo am hynny. Roedd y [[Pab Fformosws]] ([[891]]-[[896]]) yn bab cryf ac ymroddedig, yr olaf felly am rai canrifoedd. Roedd y pab wedi cefnogi'r tywysog [[Arnulf]], un o ddisgynyddion uniongyrchol olaf Charlemagne, mewn cweryl dynastig ac wedi ei wahodd i [[Rhufain|Rufain]] a'i goroni'n [[Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig|Ymerodr Glân Rhufeinig]]. Ysgrifenodd Vulgarius bamffled yn cefnogi'r pab ac yn beirniadu'r ymgeisydd arall am y goron, y Dug Lambert. Yn anffodus, bu farw Arnulf ar ôl ei goroni, ar ei ffordd i [[Spoleto]], a bu farw'r hen bab ei hun yn fuan wedyn (yn bedair ugain oed). Roedd mam y Dug Lambert, [[Ageltrude]], yn ddynes faleisus iawn. Pan gadeiriwyd pab newydd, [[Pab Steffan VII]], datgladdiwyd corff yr hen bab a'i osod ar orsedd gyferbyn â gorsedd y pab newydd yn [[y Fatican]]. Mewn golygfa erchyll cafwyd yr hen bab yn euog o heb fod yn deilwng o'i swydd. Fe'i dadwisgiwyd a thafliwyd ei gorff i [[Afon Tiber]]. Yna dechreuodd plaid Ageltrude erlid cefnogwyr Fformosws.
 
Llinell 11:
==Llyfryddiaeth==
*[[Helen Waddell]] (gol.), ''Medieval Latin Lyrics'' (Llundain, 1933). Testun un o delynegion Vulgarius a rhagor amdano.
 
 
{{DEFAULTSORT:Vulgarius, Eugenius}}