Tigranes Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JYBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ar:ديكرانوس الثاني
newidiadau man using AWB
Llinell 3:
Brenin [[Armenia]] o [[95 CC]] hyd [[55 CC]] oedd '''Tigranes Fawr''' neu '''Tigranes II''', [[Armeneg]]: '''Տիգրան Մեծ''', [[Groeg]]: '''Τιγράνης ο Μέγας''' (tua [[140 CC]] - 55 CC).
 
Roedd Tigranes yn fab neu nai i un ai [[Artavasdes I, brenin Armenia|Artavasdes I]] neu [[Tigranes I]]. Hyd pan oedd tua 40 oed, bu’n wystl yn llys [[Mithridates II. brenin Parthia| Mithridates II]], brenin [[Parthia]], oedd wedi gorchfygu’r Armeniaid yn [[105 CC]]. Wedi marwolaeth Tigranes I yn [[95 CC]], prynodd Tigranes ei ryddid trwy drosglwyddo tiriogaeth yn [[Atropatene]] i’r Parthiaid.
 
Priododd Cleopatra o Pontus, merch [[Mithridates VI, brenin Pontus]], a gwnaeth gynghrair a Pontus. Eu cytundeb oedd fod Mithridates yn ceisio concro tiriogaethau Rhufeinig yn y gorllewin tra’r oedd Tigranes yn ymestyn ei diriogaethau yn y dwyrain. Wedi marwolaeth Mithridates II, brenin Parthia yn [[88 CC]], manteisiodd Tigranes ar wendid Parthia i gipio’r tiriogaethau yn yn Atropatene oddi wrthynt. Croesodd [[Afon Euphrates]] i ymgyrchu yn [[Syria]] yn erbyn yr [[Ymerodraeth Seleucaidd]].
Llinell 14:
 
Yn fuan wedyn, cymerwyd lle Lucullus fel cadfridog gan [[Gnaeus Pompeius Magnus]]. Erbyn hyn roedd mab Tigranes, hefyd o’r enw Tigranes, wedi gwrthryfela yn ei erbyn, ac wedi i’w dad orchfygu byddin a roddwyd iddo gan [[Phraates III. brenin Parthia]], aeth at Pompeius i ofyn am gymorth yn erbyn ei dad. Yn [[66 CC]] ymosododd Pompeius ar Armenia gyda mab Tigranes, a’i orchfygu. Ildiodd Tigranes, oedd erbyn hyn tua 75 oed, i Rufain, a gadawodd Pompeius iddo gadw rhan o’i deyrnas yn gyfnewid am 6,000 talent o arian. Bu’n teyrnasu dan awdurdod Rhufain hyd ei farwolaeth yn [[55 CC]].
 
[[Categori:Genedigaethau 140 CC]]